Prosiect Gwybodaeth Ddigidol Hanfodol Cymru
Mae Prosiect Gwybodaeth Ddigidol Hanfodol Cymru yn dwyn ynghyd wasanaethau archif yr awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru i edrych ar ffyrdd o warchod deunydd digidol-anedig y Cynghorau Sir. Wedi’i ariannu gan Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Cymru, gweithiodd grŵp llywio ar adnabod materion ac ystyried atebion posibl i broblemau cadwraeth y cofnodion digidol a grëwyd ym mhob Cyngor.
Anelodd y cyfnod darganfod at:
- Ddeall y rhwystrau neu’r materion, yn rhai strategol, yn sefydliadol ac yn dechnegol, sy’n gysylltiedig â darparu mynediad hirdymor at gofnodion Cyngor.
- Datblygu datrysiad arfaethedig i’r broblem, a helpu i ddatblygu cyfnod nesaf unrhyw waith sy’n ofynnol i symud y broses hon ymlaen.
- Deall y rhwystrau a’r cyfleoedd i’r gwasanaethau archifau wrth ymgymryd â chadwraeth ddigidol yn gyffredinol.
Er mai ffocws gwreiddiol y prosiect hwn oedd cynnig mynediad hirdymor at gofnodion a gedwir ar systemau busnes Cyngor, mae hefyd wedi canolbwyntio ar ddeall y rhwystrau a’r cyfleoedd ar gyfer y gwasanaethau archifau wrth gynnal cadwraeth ddigidol yn gyffredinol. Cyhoeddwyd adroddiad y prosiect ym mis Mawrth 2021.
Lawrlwythiadau
- Adroddiad Prosiect Gwybodaeth Ddigidol Hanfodol CymruPDF (2MB)






