2022–23

Kickstart Cymru

Nod prosiect Kickstart Cymru oedd cynyddu gallu Cymru gyfan i gadw gwybodaeth
digidol anedig drwy adeiladu ar waith y rhaglen hyfforddi ‘Diogelu’r Didau’. 

Mae’r Safon Achredu Archifau yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth asesu lefel gweithdrefnau cadwraeth digidol ym maes storio, cyfanrwydd, rheolaeth, metadata a chynnwys. Mae cyrraedd y lefelau ar gyfer pob maes yn gofyn am gynnal prosesau a llifoedd gwaith, megis sicrhau bod metadata priodol yn cael ei gasglu, nad yw’r data yn cael ei lygru a bod rheolaethau ar waith i sicrhau data dibynadwy parhaus. Anelodd y prosiect hwn at gynorthwyo gwasanaethau archifau awdurdod lleol i gyflenwi yn erbyn y gofynion hyn.

Prynwyd gweithfannau annibynnol, diolch i ddyfarniad grant gan Lywodraeth Cymru. Roedd y gweithfannau hyn yn cynnwys y caledwedd a’r meddalwedd angenrheidiol i alluogi prosesau caffael diogel, dibynadwy a gwydn. Maen nhw’n sicrhau bod y data digidol sy’n cael ei gaffael gan sefydliadau o ffynonellau allanol yn cael ei brosesu a’i roi mewn cwarantîn cyn cael ei amlyncu’n ddiogel i brif seilweithiau technegol y sefydliad. Cwblhawyd y prosiect hwn ym mis Mawrth 2023.