Datgelu profiadiau bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru
Anelodd y prosiect hwn at wella ymwybyddiaeth o, a mynediad at, gasgliadau diwylliannol i bobl o fewn cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol. Rydym eisiau creu sylfaen gref ar gyfer datblygu casgliadau gyda’r cymunedau hynny, gan sicrhau bod eu profiadau byw yn rhan annatod o’n cofnod cenedlaethol.
Cam cyntaf y prosiect hwn oedd datblygu pecyn cymorth, sefydlu methodoleg arolwg ar gyfer casgliadau, a chynhyrchu’r map ar gyfer datblygiad pellach.
Roedd y pecyn cymorth yn pwysleisio agweddau sefydliadol, ymarferol, curadurol a chysylltiedig â’r defnyddiwr wrth gynnal casgliadau diwylliannol sy’n anelu at ymgysylltu defnyddwyr o bob cefndir ethnig. Gellir defnyddio’r fethodoleg arolwg ar gyfer darganfod, prosesu a darparu mynediad at ddeunyddiau cysylltiedig â chymunedau ethnig leiafrifol o safbwynt gwrth-hiliol.

