Crowd Cymru
Mae prosiect Crowd Cymru yn bartneriaeth gydweithredol i gyflenwi prosiect gwirfoddoli digidol. Fe ariannwyd y prosiect yn wreiddiol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond bellach yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru tan fis Hydref 2026. Deilliodd y syniad ar gyfer y prosiect o’r angen i ddangos bod partneriaid gwasanaeth yn mabwysiadu dull cyflym, rhagweithiol, a chydweithredol tuag at foderneiddio gwasanaethau i fodloni cynllun uchelgeisiol Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru.
Gan ddefnyddio platfform dwyieithog ar-lein a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, mae gwirfoddolwyr wedi cael eu recriwtio i dagio, mynegeio a thrawsgrifio copïau digidol o gasgliadau archif i helpu i’w gwneud yn fwy hygyrch i ymchwilwyr y dyfodol a dathliadau ehangach. Mae gan wasanaethau archif ledled Cymru filiynau o gofnodion unigryw, ac mae partneriaid prosiect yn cynnig amrywiaeth o gasgliadau i’r gwirfoddolwyr eu harchwilio a gweithio arnynt. Daw gwirfoddolwyr yn bennaf o Gymru, ond mae gan y prosiect hefyd wirfoddolwyr o UDA, Canada ac Awstralia. Bydd y prosiect hwn yn harneisio gwybodaeth unigolion mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt i gyfoethogi ein treftadaeth gyfunol er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Trwy weithio ar y prosiect, mae gwirfoddolwyr yn sicrhau sgiliau digidol sydd yn eu helpu i gadw mewn cysylltiad da ar draws eu cymunedau; sgiliau y gallant eu defnyddio wrth chwilio am gyfleoedd yn y gweithle, ac ar gyfer llesiant. Mae’r prosiect hefyd yn dangos sut mae gwasanaethau archifau wedi datblygu modelau newydd ar gyfer gwirfoddoli o bell; gan leihau’r angen i deithio ac felly cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau ôl troed carbon.
Gallwch ddysgu mwy am y prosiect, a’r gweithgareddau a wnaed, trwy ddarllen yr erthyglau blog hyn.
Os hoffech wirfoddoli gyda Crowd Cymru, cysylltwch â’r Rheolwr Prosiect drwy e-bost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk










