Prosiectau

  1. Mae gwirfoddolwyr yn defnyddio platfform dwyieithog ar-lein i dagio, mynegeio a thrawsgrifio copïau digidol o gasgliadau archifau i helpu i’w gwneud yn fwy hygyrch i ymchwilwyr y dyfodol a dathliadau ehangach.

  2. Cyd-weithio i fynd i’r afael â’r gofynion ar gyfer cadw a rheoli cofnodion digidol ledled Cymru. Yr amcan yw cefnogi cadwraeth ddigidol mewn modd cydweithredol, gan roi ystyriaeth i bethau angenrheidiol sefydliadol unigol.

  3. Wedi’i neilltuo i fynd i’r afael â’r bylchau mewn archifau a oedd yn effeithio ar gymunedau ar y cyrion yng Nghymru, gyda’r nod o blethu naratif mwy cytbwys. Nod craidd y prosiect oedd ymgysylltu â chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i greu casgliad a oedd yn cofnodi eu meddyliau, eu straeon, a’u profiadau byw.

  4. Gan weithio gyda nifer o bartneriaid ar draws llywodraeth leol ac addysg uwch, cymharodd y prosiect hwn ddisgrifiadau catalog archif gyda rhestr gytûn o dermau sarhaus a rhagfarnllyd gan gynnwys iaith hiliol, misogynaidd ac ableddol.

  5. Cynyddu’r gallu i gadw gwybodaeth ddigidol anedig, a chynorthwyo gwasanaethau archifau awdurdod lleol i gyflenwi yn erbyn gofynion cadwraeth ddigidol yn y Safon Achredu Archifau.

  6. Adnabod cofnodion a oedd mewn perygl yn ystod pandemig Covid -19, ac i hwyluso strategaeth tymor hwy i gefnogi achub cofnodion yn y dyfodol. Datblygwyd a chyhoeddwyd pecyn cymorth ar-lein, i gartrefu adnoddau a chanllawiau am arolygu cofnodion a monitro risg.

  7. Cynefin

    2014–17
    Map Degwm mawr ar wal magnetig, gyda chamera ddigidol wedi'i gosod o'i flaen.

    Cafodd mwy na 1,100 o fapiau degwm eu trwsio a’u digido yn ystod y prosiect. Trawsgrifiwyd tua 27,000 o gofnodion a’r dogfennau pennu sy’n cyd-fynd â nhw gan wirfoddolwyr ar-lein, gan eu cysylltu â rhifau caeau perthnasol ar y mapiau.

  8. Prosiect i ehangu mynediad at gofnodion y prif weithfeydd dur yn ne a gogledd Cymru, yn ogystal â phapurau’r prif undeb llafur, gan roi dealltwriaeth gynhwysfawr o wahanol agweddau ar y diwydiant.

  9. Defnyddiodd ddisgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Gyfun Sandfields adnoddau archifol megis ffotograffau, ffilmiau, mapiau a darnau o hanes llafar sy’n gysylltiedig â’r gwaith dur a’r ystâd i greu arddangosfa deithiol i ddathlu hanes ystâd Sandfields ym Mhort Talbot.