Canfod ac achub archifau a chofnodion sydd mewn perygl

Yn y canllawiau isod, a’r cyflwyniad cysylltiedig, ceir trosolwg o’r broses sut i achub cofnodion busnes sydd mewn perygl oherwydd problemau ariannol y cwmni, ac mae’n sôn am y camau gweithredu o’r ymchwilio a’r monitro hyd at gaffael cofnodion gan gwmni ansolfent. Ymhlith gwybodaeth arall, mae’n cynnwys siart llif sy’n amlinellu prif gamau’r broses, canllawiau ar derminoleg ansolfedd corfforaethol, a gwybodaeth ynghylch cysylltu ag ymarferwyr ansolfedd. Bwriadwyd y canllawiau ar gyfer archifyddion a gwasanaethau archifau yng Nghymru yn bennaf ond gallant fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn achub cofnodion gan gwmnïau ansolfent. 

Lawrlwythiadau