Gwasanaeth Archifau Conwy

Mae ein gwasanaeth yn casglu ac yn cadw cofnodion sy’n cael eu hystyried o bwysigrwydd parhaol i Fwrdeistref Sirol Conwy ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn hygyrch. Mae’r rhain yn cynnwys Mapiau, Cynlluniau, Ffotograffau, Dogfennau a Chofnodion Digidol yn tynnu sylw at ein treftadaeth unigryw ac amrywiol, o fusnesau i glybiau, o eglwysi i ysgolion, o lywodraeth leol i gofnodion personol gwahanol breswylwyr.

Gwasanaeth Archifau Conwy, Canolfan Ddiwylliant Conwy, Ffordd Town Ditch, Conwy LL32 8NU

Oriau Agor

Dydd Llun, Dydd Mercher, a Dydd Iau: 09.30 – 12.30 a 13.30 – 16.30
Dydd Mawrth: 09.30 – 12.30 a 13.30 – 18.45

Eitemau Gwasanaeth Archifau Conwy

  1. Drafft cyfreithiwr ar gyfer achos a glywyd yn y Star Chamber, pan gyhuddwyd Cwnstabl Castell Conwy o garcharu pobl y dref ar gam

  2. Cofrestr Faciwîs, Cyngor Dosbarth Trefol Betws-y-coed; Ychydig iawn o’r cyfrolau hyn sydd wedi goroesi’n genedlaethol

  3. Llun o eifr y Gogarth, a ddaeth i lawr i dref Llandudno yn ystod pandemig Covid-19; mae hanes yn perthyn i’r ddegawd ddiwethaf yn ogystal â chanrifoedd yn ôl

  4. Cofrestr Plwyf Conwy, mae’r cofnod hwn yn arddangos bedydd Robbin Conway yn 1762 “Dyn du yn perthyn i’r Yswain Holland”.

  5. Llun o lochesau cysgu yng Nghartref Dr Garretts, Conwy; anfonwyd plant i’r cartref o Fanceinion i ymadfer ar arfordir Gogledd Cymru