Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd
Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau yn gofalu am drysorau Prifysgol Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi ymchwilwyr o bob math, trwy ddarparu mynediad at gasgliadau ac arbenigedd yn ein hystafell ddarllen ym Mhrifysgol Caerdydd.
Os ydych chi’n ymchwilydd profiadol, neu’n ymweld ag archif am y tro cyntaf – byddwn yn hapus i’ch croesawu. Yn ogystal â’n casgliadau unigryw, rydym yn gartref i stiwdio ddigido fodern, casgliadau ar-lein a chyfleusterau dysgu. Rydym yn gweithio ar y cyd gyda staff y Brifysgol a thu hwnt i roi bywyd newydd i’n casgliadau, a ‘rydym yn croesawu ymholiadau gan brosiectau academaidd, rhyngwladol, creadigol a chymunedol.
Oriau Agor
I archebu lle yn yr ystafell ddarllen, neu i wneud cais am ddeunydd: anfonwch ebost at specialcollections@caerdydd.ac.uk
