Defnyddio Archifau (Ymweld ag Archifdy)
Ymweld â Gwasanaeth Archifau
Bydd gwasanaethau archifau yn rhestru’r rhan fwyaf o archifau mewn catalogau ar-lein, neu restrau eraill o’r enw llawrestrau neu gymhorthion canfod. Mae’r rhain yn aml yn rhoi gwybodaeth am gefndir yr archif – pwy greodd yr archif a pham – ac yn disgrifio beth fydd ynddi. Bydd gan bob eitem mewn archif, neu grŵp o eitemau, gyfeirnod neu god. Defnyddiwch y cyfeirnod neu’r cod hwn er mwyn gofyn am yr eitemau rydych am eu gweld.
Byddwch yn defnyddio’r archifau mewn ystafell bwrpasol, a elwir yn aml yn ystafell ddarllen neu ystafell chwilio.
Sut mae chwilio am yr hyn yr ydw i ei eisiau?
Nid yw gwasanaethau archifau fel llyfrgelloedd; fedrwch chi ddim pori’r silffoedd er mwyn dod o hyd i’r archifau rydych am eu gweld. Mae archifau’n unigryw, ac ni ellir cael rhai newydd os y’u collir neu os y’u difrodir – fe’u cedwir mewn ystafelloedd diogel o dan yr amodau amgylchiadau cywir megis tymheredd a lleithder. Pan fyddwch yn gofyn am eitem, bydd staff yn dod ag ef allan atoch, ac ar ôl i chi orffen gydag ef bydd yn rhaid ei gadw yn ddiogel hyd nes bydd ei angen eto. Gallwch chwilio am archifau a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich ymchwil chi naill ai yn y gwasanaethau archifau ei hun neu drwy chwilio yn eu catalog ar-lein.
Chwilio catalog yr archifau
Mae’n ddefnyddiol cofio nad yw archifau, yn wahanol i lyfrau mewn llyfrgell, yn cael eu trefnu yn ôl pwnc. Fe’u trefnir yn y catalog yn ôl ‘creawdwr’ – yn aml caiff yr holl gofnodion a grëwyd gan un unigolyn neu sefydliad eu rhoi gyda’i gilydd, fel archif yr unigolyn neu’r sefydliad hwnnw. Gall un archif gynnwys deunyddiau sy’n ymwneud ag ystod o bynciau, megis y XXX neu XXX. Ar y llaw arall, efallai y gwelwch fod deunyddiau sy’n ymwneud â’ch ymchwil wedi eu lledu ar draws nifer o wahanol archifau. Mae staff yno i’ch helpu chi bob amser – os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi ei eisiau, neu os nad ydych chi’n gwybod sut i ddefnyddio’r catalog, gofynnwch.
Mae catalogau ar gael ar-lein hefyd
Gallwch yn aml ddod o hyd i ddisgrifiadau bras am lawer o’r casgliadau o archifau sy’n cael eu cadw gan wasanaethau archifau yng Nghymru ar yr Archives Hub. Ni fyddwch yn dod o hyd i gatalogau manwl gyda rhestri o eitemau unigol yma, ond byddwch yn dod o hyd i ddigon o wybodaeth er mwyn penderfynu a yw’n werth ymweld neu gysylltu â gwasanaeth archifau penodol. Mae gan rai gwasanaethau archifau gatalogau manwl ar eu gwefannau eu hunain hefyd.
Gwasanaethau eraill
Mae llawer o wasanaethau archifau yn cynnig gwasanaeth ymchwil proffesiynol, a gwasanaeth copïo.
Mae archifau yno i bawb – cadwch nhw’n ddiogel
Mae defnyddio archifau’n brofiad gwych – mae pob eitem yn werthfawr ac yn unigryw; yn gysylltiad uniongyrchol â’r gorffennol. Ystorfa archif yw lle y mae cofnodion yn cael eu storio ar gyfer eu diogelu, felly rhaid i ni sicrhau eu bod yn para heb niwed er mwyn i bobl eraill edrych arnynt. Mae gan y rhan fwyaf o wasanaethau archifau reolau yn eu hystafelloedd chwilio, fel y rhain:
- Sicrhewch fod eich dwylo’n lân
- Defnyddiwch bensiliau yn unig
- Dim bwyta nac yfed (dim hyd yn oed felysion na photeli dŵr)
- Byddwch yn ofalus wrth drin y dogfennau – defnyddiwch y pwysau a’r cynhalwyr llyfrau a ddarperir os oes angen
- Gadewch eich bagiau a’ch cotiau y tu allan i’r ystafell chwilio – mae gan y rhan fwyaf o archifdai gypyrddau clo.
Bydd staff cyfeillgar a gwybodus bob amser yn barod i’ch helpu a rhoi cyngor ar y ffordd orau i drin y dogfennau.