Adneuo eich Dogfennau a’ch Cofnodion
Mae llawer o’r cofnodion sy’n cael eu cadw gan wasanaethau archifau wedi’u cyfrannu neu’u hadneuo gan aelodau’r cyhoedd, busnesau, sefydliadau a chymdeithasau. Gallant ddod ar lawer o fformatau gwahanol, er enghraifft mewn llawysgrifen ar bapur, cofnodion digidol, ffotograffau neu ffeiliau sain.
Bydd gan bob gwasanaeth archifau Bolisi Gwybodaeth Casgliadau sy’n rhoi manylion y mathau o gofnodion y maen nhw’n eu casglu. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod ond yn casglu cofnodion sy’n ymwneud â’u hawdurdodaeth, arbenigedd pwnc neu faes ymchwil, ac sydd o werth parhaus.
Os oes gennych chi gofnodion defnyddiol sy’n ymwneud â phobl neu leoedd yng Nghymru a allai fod o fudd parhaus i’r cyhoedd, yna gallwch ychwanegu at ein casgliadau. Gallwch un ai roi eich cofnodion i ni’n rhodd, neu eu hadneuo â ni ar fenthyg. Os ydych chi eisiau gyfrannu neu adneuo eich cofnodion, cysylltwch â’ch gwasanaeth archifau lleol.