Cyflwyniad i Archifau

Mae archifau yn gofnodion gwerthfawr sy’n adrodd stori ein gorffennol. Mae gwasanaethau archif yng Nghymru yn diogelu ac yn amddiffyn ein cof cyfunol, ac yn ein helpu i ddathlu ein hunaniaeth ddiwylliannol. Y rhain yw’r ffeithiau, y dystiolaeth a’r mewnwelediadau a ddefnyddiwn i ddarganfod, dehongli a deall hanes.