2009–

Cadwraeth Ddigidol

Ers 2009, mae Gweithgor Cadwraeth Ddigidol Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW) wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â’r gofynion ar gyfer cadw a rheoli cofnodion digidol ledled Cymru. Yr amcan yw cefnogi cadwraeth ddigidol mewn modd cydweithredol, gan roi ystyriaeth i orchmynion sefydliadau unigol.

Mae’r prosiect eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at y nod hwn, ac mae partneriaid yn y broses o drawsnewid i gynnig gwasanaeth cynaliadwy hirdymor.

Mae’r Gweithgor Cadwraeth Ddigidol wedi cynhyrchu Polisi Cadwraeth Ddigidol i Gymru, i gydnabod yr her strategol sylweddol y mae sefydliadau yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn creu cofnodion yn ei hwynebu o safbwynt cadwraeth ddigidol, ac i’r gwasanaethau archifau sy’n gyfrifol am eu diogelu’n barhaol.