Cofnodion mewn Perygl

Trosolwg o Becyn Cymorth Cofnodion mewn Perygl 

Mae’r adnoddau a’r canllawiau canlynol yn ymwneud â chynnal arolwg ar gofnodion a monitro’r risg. Maent wedi’u dwyn ynghyd fel rhan o brosiect Cofnodion mewn Perygl Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, prosiect a ariennir gan Gronfa Archifau Covid-19 yr Archifau Gwladol.  

Trefnwyd y canllawiau yn ddau brif linyn. Mae’r cyntaf (‘Canfod ac achub archifau a chofnodion sydd mewn perygl’) yn rhoi gwybodaeth am ganfod ac achub archifau a chofnodion sydd mewn perygl mewn cwmnïau ansolfent. Mae’n cynnwys canllawiau a grëwyd ar ran CACC fel rhan o’r prosiect Cofnodion mewn Perygl ei hun, yn ogystal ag adnoddau gan bartneriaid allanol megis y Tîm Rheoli Argyfwng.  

Mae’r ail (‘Adnoddau yn ymwneud â sut i gynnal arolwg o gofnodion’) yn cynnwys canllawiau ar sut i gynnal arolwg o bell ar gadw cofnodion mewn sefydliadau allanol fel elusennau a busnesau, ynghyd â dolenni i adnoddau allanol ychwanegol ynghylch cynnal arolygon ar gofnodion yn fwy cyffredinol. 

Mae’r pecyn cymorth hwn hefyd yn cynnwys canllawiau ar gadwraeth ddigidol i aeth Ddigidol gyda’r bwriad ar hyn o bryd o’u cyhoeddi ym mis Mehefin 2022.