Rhaglen Diogelu’r Didau
Cynhaliwyd yr hyfforddiant hwn gan Staff Prosiect Cadwraeth Ddigidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Nod y sesiynau hyn oedd cyfnewid gwybodaeth a phrofiad ymarferol mewn cadwraeth ddigidol a fydd yn galluogi camau cadwraeth ddigidol i gael eu cymryd o fewn sefydliadau i sicrhau bod y cynnwys digidol yn cael ei adnabod a’i ddiogelu.