Gwirfoddoli
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith rydym ni’n ei wneud. P’un a ydych chi’n teimlo’n angerddol am hanes, eisiau gwella’ch gwybodaeth a’ch sgiliau, neu’n syml eisiau cymryd rhan mewn rhywbeth gwerth chweil, mae gwirfoddoli yn eich gwasanaeth archifau yn ffordd wych o gymryd rhan a gwneud ffrindiau newydd.
Gallwch fod o unrhyw oed ac eisiau dysgu sgiliau newydd neu wella’ch CV, cael bach o brofiad gwaith, neu ddysgu am hanes eich ardal. Dyma rhai o fanteision gwirfoddoli:
- gwella sgiliau TG a sgiliau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith
- darparu gwell ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned
- gwella hyder wrth chwilio am waith, yn enwedig os ydych chi’n awyddus i weithio mewn gwasanaeth archifau
- rhoi hwb i’ch lles, iechyd a chysylltiadau cymdeithasol
Mae gwirfoddoli hefyd yn cefnogi unigolion sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o ddiweithdra, drwy ddysgu sgiliau newydd a chael profiad mewn sectorau newydd.
Mae rhai gwasanaethau archifau hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli digidol er mwyn i chi allu gwirfoddoli o bell o gysur eich cartref eich hun. Ymhlith yr enghreifftiau o fathau o waith y gallech chi ei wneud yw trawsysgrifio testun mewn llawysgrifen a thagio ffotograffau digidol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda gwasanaeth archifau, holwch eich gwasanaeth archifau lleol i weld pa gyfleoedd sydd ar gael.