Ynghylch Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru
Sefydlwyd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru ym mis Mai 1995 fel corff cynrychioladol i sefydliadau a chyrff ledled Cymru sy’n ymwneud â gofalu am archifau.
Nodau’r Cyngor yw:
- Dylanwadu ar bolisi ynglŷn ag archifau yng Nghymru
- Dwyn at sylw’r cyhoedd, y llywodraeth neu sefydliadau neu gyrff perthnasol faterion sydd o ddiddordeb ar hyn o bryd ym maes archifau yng Nghymru
- Rhoi ffocws i brosiectau cydweithredol ym maes archifau yng Nghymru
- Dwyn ynghyd sefydliadau a chyrff sy’n ymwneud a gweinyddu archifau yng Nghymru a chynnig fforwm iddynt gyfnewid barn yn rheolaidd
Mae CACC hefyd yn rheoli cynlluniau grantiau i gefnogi gwaith gwasanaethau sy’n aelodau wrth gadw a darparu mynediad at adnoddau archifol. Mae’r Cynllun Grantiau Cynnal Achredu, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn rhoi cymorth i ddatblygu a gwella gwasanaethau archifau yn unol â gofynion y Cynllun Achredu Gwasanaethau Archifau [ychwanegu dolen]. Gall cyllid grant yn aml gefnogi gofalu am gasgliadau, datblygu’r gweithlu neu waith yn ymgysylltu â’r cyhoedd.
Mae Fforwm blynyddol CACC a digwyddiadau hyfforddi a rhwydweithio eraill yn cynnig cyfle i staff o wasanaethau archifau ar draws Cymru i gwrdd â’u cyfoedion ac i drafod a chlywed am bob math o faterion sy’n berthnasol i’w gwaith yn y dyfodol.
Lawrlwythiadau
- Agor yr Archifau 2018PDF (2MB)
- Agor yr Archifau 2023PDF (7MB)
- Cyflwyno Eich Gwasanaeth Archifau 2025PDF (22MB)