MORGANNWG GANOL: ‘I fyny a throsodd’

Fel rhan o’r prosiect Cynefin cyffredinol, goruchwyliwyd chwe phrosiect llai gan swyddfeydd archifau lleol drwy Gymru, gyda phob prosiect yn edrych ar agwedd o’r mapiau degwm oedd yn apelio atynt gan weithio gyda’u cymuned leol.

Roedd ‘I fyny a throsodd’ yn brosiect mewn dau Gwm i’r gogledd i Ben-y-bont ar Ogwr (Garw a Llynfi) ac fe’i cynhaliwyd gan Gelfyddydau Cymuned Cwm a Bro. Nod y prosiect oedd ail-greu harddwch a hanes archifau, atgofion personol ac ar y cyd drwy gyfrwng tecstilau, gan ddefnyddio mapiau degwm a mapiau hanesyddol eraill fel ysbrydoliaeth mewn dau frodwaith a grëwyd gan grwpiau lleol.

Roedd y tecstilau, ymysg eraill, yn cynnwys ffotograffau gyda llinellau pwythau a lliw wedi’u hychwanegu gan y gwirfoddolwyr. Crëwyd darnau unigol yn cynnwys adegau pwysig yn eu bywydau, fel achlysuron teuluol a chwaraeon, siwrneiau bob dydd yn ôl a blaen i’r ysgol a’r gwaith, neu deithiau ysbrydoledig gyda hoff olygfeydd. Hefyd cafodd tirnodau hanesyddol a phobl o’r cymunedau y credai’r grwpiau yr oedd angen eu crybwyll eu cynnwys hefyd. Creodd y prosiect bartneriaethau cymunedol newydd drwy’r gweithiau celf hyn trwy gysylltu’r ddau ddarn, a Chwm Garw a Llynfi, gan fod cysylltiad wedi bod rhyngddynt erioed, trwy lwybrau dros y mynydd cyn i’r mapiau degwm hyn gael eu creu

Prosiect ‘I fyny a throsodd’ ©Archifau Morgannwg