CEREDIGION: ‘Peint o Hanes Plîs!’

Vicky

Fel rhan o’r prosiect Cynefin cyffredinol, goruchwyliwyd chwe phrosiect llai gan swyddfeydd archifau lleol drwy Gymru, gyda phob prosiect yn edrych ar agwedd o’r mapiau degwm oedd yn apelio atynt gan weithio gyda’u cymuned leol.

Mae ‘Peint o Hanes Plîs!’ yn brosiect am fapiau degwm a thafarndai dan arweiniad Fforwm Hanes Lleol Ceredigion, ac yn sgil brwdfrydedd mawr gwirfoddolwyr y prosiect, mae wedi parhau ar ôl i brosiect Cynefin ddod i ben.

Mae’r prosiect wedi cofnodi gwybodaeth am dafarndai yng Ngheredigion. Hen dafarndai, tafarndai newydd, gwestai, ystafelloedd aros mewn gorsafoedd rheilffordd a bragdai. Ac i sicrhau cydbwysedd, ambell westy Dirwestol a thŷ coco. Mae gwefan y prosiect a’r gronfa ddata ar-lein yn cynnwys manylion bron i 1,000 o dafarndai a safleoedd eraill sydd wedi bodoli yn y sir dros y blynyddoedd.