Trawsnewid Gofal Casgliadau yn Archifau Gwent: Prosiect wedi’i Gwblhau!

Rydym wedi sôn o’r blaen am y prosiect ‘Trawsnewid Gofal Casgliadau yn Archifau Gwent’, a ariennir gan Raglen Gwelliannau Cyfalaf Rheoli Casgliadau Llywodraeth Cymru, a dyma ein diweddariad olaf.

Mae wedi bod yn 6 mis anhygoel, er yn brysur!  Dechreuodd y prosiect ym mis Tachwedd, gyda’r cadarnhad ein bod ni wedi llwyddo gyda’n ein cais am gyllid o tua £80,000 i greu mannau mwy effeithlon ac effeithiol i weithio ar ein casgliadau. 

Y cam cyntaf oedd cael silffoedd symudol ar gyfer yr ystafell ‘Ynysu’ sydd wedi’i hadleoli. Dyma’r ystafell rydyn ni’n cadw eitemau sydd angen eu hynysu oddi wrth weddill y casgliadau, oherwydd lleithder, llwydni, pryfed ac ati.  Roedd angen llawer o waith ar y casgliadau i drin cymaint ohonynt â phosibl, ac wynebodd ein staff a’n gwirfoddolwyr yr her!  Erbyn diwedd y prosiect roedd nifer yr eitemau sydd angen triniaeth wedi gostwng 65%. Mae mwy o wybodaeth am y rhan hon o’r prosiect yn ein newyddion mis Tachwedd https://archives.wales/2025/02/05/transforming-collections-care-at-gwent-archives-an-update/.

Yna dechreuon ni weithio ar yr ystafelloedd!  Archebwyd offer cadwraeth newydd, gan gynnwys gilotîn trwm fel y gallwn wneud blychau pwrpasol i ddiogelu’r casgliadau, silffoedd sychu a thwb rhwymo llyfrau.   Rydym hefyd wedi prynu dodrefn y mae modd addasu ei uchder, fel bod lleoedd yn hygyrch i staff a gwirfoddolwyr, a llawer (a llawer!) o silffoedd.

Ym mis Ionawr gosodwyd silffoedd newydd yn y Storfa Gadwraeth i reoli’r offer a’r deunyddiau yn well.

Y Storfa Gadwraeth

Gosodwyd y twb rhwymo llyfrau newydd hefyd, yn ogystal â chwfl cemegol presennol gan fod lle wedi’i glirio ar ei gyfer.   Cliriwyd yr hen ystafell Ynysu, yn barod i’w defnyddio newydd fel ystafell digido.  Roedd cynnwys yr ystafell hon yn archifau a oedd angen triniaeth cyn y gellid rhoi cartref parhaol iddynt yn yr Ystafelloedd Diogel.  Gweithiodd y tîm Gofal Casgliadau, staff eraill a’r gwirfoddolwyr yn galed i drin cymaint o’r eitemau â phosibl.  Symudwyd y rhai a oedd angen mwy o driniaeth a’u cadw yn yr ystafell Ynysu newydd.

Ym mis Chwefror gwelwyd y newidiadau mwyaf amlwg, gyda thair ystafell yn cael eu trawsnewid.  Daeth dwy ystafell yn un Ystafell Gatalogio fwy, i gynnwys uchder addasadwy ychwanegol a mwy o le ar gyfer catalogio’r casgliadau.   Cymerodd y gwaith hwn ychydig dros wythnos ac roedd yn cynnwys tynnu wal, ailgyfeirio pwyntiau trydanol a data yn ogystal â symud cwpwrdd y gweinydd.  Dyma’r amser mwyaf swnllyd a llychlyd, ond yn bendant roedd yn werth cyfnod byr o aflonyddwch.

Yr Ystafell Waith a’r Ystafell Lanhau wedi eu hehangu i fod yn Ystafell Gatalogio

Ochr yn ochr â hyn, trawsnewidiwyd yr hen ystafell reprograffeg yn ystafell Brysbennu Archifau.  Bydd yr ystafell hon yn cael ei defnyddio i asesu casgliadau newydd am unrhyw lwch, llwydni, lleithder, tystiolaeth o bryfed ac ati. Os nad oes angen triniaeth, byddant yn cael eu hail-becynnu yn yr ystafell hon ac yn cael lle parhaol yn yr Ystafelloedd Diogel.  Os oes angen triniaeth arnyn nhw, byddant yn cael eu symud i’r silffoedd symudol yn yr Ystafell Ynysu newydd.   Roedd y dasg hon arfer digwydd yn yr ystafell waith, felly mae’r gofod newydd yn caniatáu inni wahanu’r gwaith, a all fod yn fudr, o asesu casgliadau o’r gwaith catalogio ‘glân’ am y tro cyntaf.  Mae’r ystafell Brysbennu bellach yn cynnwys bwrdd mawr y mae modd addasu ei uchder ar gyfer asesu casgliadau, silffoedd i storio deunydd pecynnu a deunyddiau ar gyfer ynysu ac uned storio oer ar gyfer archifau sydd angen triniaeth oerni.

Daeth yr Ystafell Reprograffeg yn Ystafell Brysbennu Archifau

Yr ystafell olaf a gomisiynwyd oedd yr hen ystafell Ynysu. Ar ôl clirio’r cynnwys yn gynharach yn y prosiect, symudwyd yr offer digideiddio a’r dodrefn i mewn ganol mis Chwefror ar ôl sefydlu’r ystafell Brysbennu.

Daeth yr Ystafell Ynysu yn Ystafell Ddigido

Mae wedi bod yn ychydig fisoedd prysur, ac anhrefnus.  Ond rydyn ni’n falch iawn o’n hystafelloedd, ein hoffer a’n dodrefn newydd.  Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a gwirfoddolwyr, a weithiodd mor galed.  Ac ymddiheuriadau i’r rhai a ymwelodd yn ystod yr wythnos yr oedd y wal yn cael ei dymchwel – roedd yn llawer mwy swnllyd na’r disgwyl!