Y Straeon ymhlith Hysbysebion Hanesyddol
Wrth archwilio hen bosteri, taflenni a chatalogau, gwelwn gipolwg ar straeon, o berfformiadau ar y pier i’r bwyd a brynwyd gan bobl. Mae’r ffaith nad oedd yr hysbysebion hyn wedi’u cynllunio i adrodd straeon, dim ond i werthu pethau, yn golygu eu bod, efallai, hyd yn oed yn fwy diddorol. Gadewch i ni edrych ar rai eitemau a gweld beth a welwn.
Digwyddiadau
Mewn cyfnod cyn y cyfryngau cymdeithasol, posteri o amgylch trefi a hysbysebion papur newydd oedd y lle i ddysgu am ddigwyddiadau. Cafwyd addewid am adloniant, a seibiant o’r bywydau beunyddiol.
Miss Lucy Nuttall, Hysbyseb Perfformiad Pier Llandudno (1908), eitem o Wasanaeth Archifau Conwy:

Mae hysbyseb am berfformiad gan Miss Lucy Nuttall yn ein gwahodd i noson ar y pier i glywed “The Young Contralto”. Arferai pierau, ac i raddau maen nhw’n dal, i fod yn ganolfannau adloniant, yn cynnal cyngherddau, sioeau hud, a mwy.
Posteri Dawns y Coleg
The Presidents Ball – Dawns Y Llywydd (2002), eitem o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Y Drindod Dewi Sant:

College Ball – Dawns Y Coleg (1986), eitem o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Y Drindod Dewi Sant:

College Ball – Dawns Y Coleg (Heb Ddyddiad), eitem o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Y Drindod Dewi Sant:

Mae’r tri phoster hyn yn hysbysebu Dawns y Coleg o dri chyfnod gwahanol gan ddangos ffyrdd gwahanol iawn o hysbysebu’r ddawns ar hyd y blynyddoedd.
Sioe Frenhinol Cymru, Hysbyseb Catalog Meddyginiaethau Anifeiliaid (1904), eitem o Lyfrgell Genedlaethol Cymru:


Yn sicr yn llai hudol na’r enghreifftiau eraill, ond yn ddim llai arwyddocaol. Mae bodolaeth hysbyseb lliw print mewn catalog manwl yn awgrymu graddfa’r digwyddiad, a pha mor bwysig oedd denu busnes.
Bywyd yn y Cartref
Mae hysbysebion ar gyfer nwyddau cartref a chatalogau Nadolig yn cynnig cipolwg ar fywyd domestig.
A Christmas to Remember, Catalog Nadolig Marshall a Ward (1956), eitem o Archifau Powys:


Yn llawn hwyl yr ŵyl, mae’r catalog hwn yn rhoi cipolwg i ni o Nadolig y gorffennol. Mae’n ein hatgoffa nad digwyddiad modern yw siopa gwyllt y Nadolig.
Hysbyseb William Jones Flour and Corn (t.1905), eitem o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru:

Hysbyseb Home and Colonical Stores (t.1905), eitem o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru:

Hysbyseb Ino Margarine (c.1905), eitem o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru:

Mae hysbysebion ar gyfer yr eitemau bob dydd hyn yn ddiddorol iawn, pa dactegau a ddefnyddiwyd i ddenu busnes, i lawer, y ffocws oedd eu pris isel. Mae hysbyseb William Jones yn dewis cyfeiriad gwahanol, nid yw’n sôn am bris, ond mae’n bendant yn denu’r llygad!
Catalog Atodol Dodrefn Cartrefi Pryce Jones (1956), eitem o Archifau Powys:



Roedd Pryce Jones yn berchen ar warws mawr yn y Drenewydd, Canolbarth Cymru. Arloesodd gatalogau archebu drwy’r post gan ddod â siopa cyfleus i gartrefi ledled Cymru, gan adael i bobl bori a phrynu heb adael eu cartrefi!
Busnes a Chyfle
Mae cyfeirlyfrau masnach, a hysbysebion lleol, yn rhoi cipolwg ar fusnesau a luniodd fywydau.
Cyfeiriadur Masnach Bargoed a’r Cylch (1912), eitem o Archifau Morgannwg:

Cyfeiriadur Busnes Bennett, Bangor (Heb Ddyddiad), eitem o Archifau Gwynedd:


Daw’r hysbyseb ar gyfer “The Emporium Bargoed” o’r Cyfeiriadur Masnach Bargoed a’r Cylch, yn hysbysebu “The finest selection in town…without exorbitant profits”! Mae’r hysbysebion yng Nghyfeiriadur Busnes Bennett yn rhestru busnesau lleol, pob hysbyseb fach yn cynrychioli bywoliaeth rhywun, o bapurau newydd i olchwyr dillad, trinwyr gwallt i dafarnwyr.
Poster ar gyfer South Wales Atlantic Steamship Company o Gyfeiriadur Masnach (1875), eitem o Archifau Morgannwg:

Mae hysbysebion ar gyfer allfudo fel hyn, gan annog pobl i adael Cymru i chwilio am gyfleoedd gwell, yn atgof pwerus o galedi economaidd. Maen nhw’n adrodd stori o obaith, o bobl sy’n barod i groesi’r cefnforoedd am fywyd newydd.
Addysg
Hysbysebion sy’n gysylltiedig ag addysg, a gwybodaeth.
Catalog o Offer a Deunydd Ysgol (1858) y Gymdeithas Genedlaethol, eitem o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Prifysgol Drindod Dewi Sant:



Wrth edrych drwy’r catalog hwn gwelwn restrau ar gyfer cofrestrau dosbarth, prennau mesur a phensiliau. Rydym hefyd yn gweld eitemau mwy anarferol, cwmpawd morwyr, modelau planedur, ac mae hyd yn oed model topograffig o Jerwsalem yn cael ei hysbysebu! Tybed faint o fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu gydag eitemau o’r catalog hwn?
Catalogau Teiplunio (t.1950s i t.1970s.), eitem o Archifau Gwent:







Daw’r delweddau hyn o gofnodion Yendall and Co. Ltd., busnes argraffu a sefydlwyd yn Rhisga ym 1870 gan John Robert Taylor. Cymerodd ei gynorthwyydd Thomas Yendall awenau’r busnes ym 1878.
Ym 1925, dechreuodd y cwmni gynhyrchu ‘Riscatype’ ac erbyn 1935 roedd wedi rhoi’r gorau i argraffu ar gyfer teiplunio. Mae’r rhain yn enghreifftiau o’u catalogau teiplunio rhwng tua 1950au a thua 1970au.
Mae’r catalogau hyn yn rhoi cipolwg i ni ar y grefft o lythrennu a dylunio printiau, sy’n ein hatgoffa bod hyd yn oed siâp geiriau ar dudalen yn adlewyrchiad o’r oes honno.
Poster ar gyfer MA mewn Archaeoleg Tirwedd ym Mhrifysgol Cymru Llambed (t.1999/2000), eitem o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant:

Poster addurniadol rhyfeddol, ffordd dechnoleg isel ac efallai hen ffasiwn o hysbysebu cwrs MA.
Casgliad
Yr hyn sy’n gwneud yr hysbysebion hyn mor ddiddorol yw eu cyffredinedd. Nid eu bwriad oedd eu cadw fel arteffactau hanesyddol, cawsant eu cynllunio i werthu cynhyrchion, cyhoeddi digwyddiadau, neu gyfeirio pobl at wasanaethau. Gyda’i gilydd, fodd bynnag, daethant yn adlewyrchiad o’r gorffennol, o fywydau pobl.
Nid digwyddiadau mawreddog yn unig yw hanes, ond hefyd y cynhyrchion a ddefnyddiwyd, y dawnsfeydd aeth y bobl iddynt, a’r pethau a wnaeth pobl gyffredin.