Diogelu Ein Cynnwys Digidol: Dathlu Cymunedau

Ar ddydd Iau, Tachwedd 7fed rydym yn dathlu Diwrnod Cadwraeth Ddigidol y Byd. Mae ein blog cyntaf gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn sôn am rai o’r heriau sy’n eu hwynebu wrth brosesu archifau amlgyfrwng hybrid.
Haenau yn y Dirwedd: archif ddigidol/draddodiadol hybrid yn LlGC
Daw swm cynyddol o ddeunydd archifol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru naill ai’n hybrid neu’n fformat cwbl ddigidol. Er mwyn delio â’r rhain, mae’r Llyfrgell yn datblygu llifoedd gwaith newydd ar gyfer caffael, amlyncu, catalogio, storio a dosbarthu.
Mae llawer o’r deunydd hwn yn cael ei ‘eni’n ddigidol’: testun, fideo, sain neu ddelweddau sydd wedi’u cynhyrchu neu eu creu ar ffurf ddigidol, yn hytrach nac wedi’i drosi o eitemau analog cyfwerth. Yn yr un modd ag unrhyw ddogfen arall, mae ffeiliau a aned yn ddigidol wrth risg o’r diwrnod y cânt eu creu. Mae hygyrchedd yn y dyfodol dan fygythiad darfodiad y fformat (meddalwedd ddim ar gael), pydredd data (dirywiad yn y cyfrwng storio) a phydredd gwybodaeth neu bydredd didau (dim modd darllen data).
Defnyddia’r Llyfrgell Archivematica i gasglu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol i ddiogelu a chynnal mynediad at wrthrychau digidol. Mae Archivematica yn gyfres integredig o offer meddalwedd ffynhonnell agored sydd wedi’i ffurfweddu i gynnal sganiau firws yn systematig, adnabod fformat ffeiliau, normaleiddio ffeiliau, gwirio prawfsymiau, cofnodi mynediad a hawliau diogelu digidol. Mae wedi’i ffurfweddu i weithio gyda systemau Llyfrgell eraill, ac adrodd wrthynt. Anfona Archivematica gopi diogelu a metadata at archif ddigidol y Llyfrgell, ond mae hefyd yn darparu copïau mynediad i ddefnyddwyr eu gweld ar y catalog. Mae’r Llyfrgell wedi prosesu nifer o archifau’r ffordd hon.
Un o’r mwyaf heriol yw ‘Haenau yn y Dirwedd’, archif hybrid yn cynnwys bocs bach o lawysgrifau traddodiadol, teipysgrif a deunydd print, sawl gwaith celf mawr gan gynnwys cynfasau, baner a sgrôl fawr, a 38 o wrthrychau wedi’u geni’n ddigidol ar sawl fformat (testun PDF, delweddau JP2, sain MP3 a delweddau symudol MP4). Yn hanesyddol, mae’r Llyfrgell wedi catalogio deunydd llawysgrif, graffig a phrint ar wahân, ond mae technoleg ddigidol yn caniatáu i ni gynnwys popeth ac eithrio’r gweithiau celf mawr mewn un disgrifiad archifol yn ein catalog AtoM, gan wella mynediad a gwneud y cyd-destun archifol yn haws ei ddeall. (https://archives.library.wales/index.php/layers-in-the-landscape-haenau-yn-y-tirwedd).

Yn gynnar yn y prosiect darganfuwyd pâr o gyrn carw coch hynafol yn y Borth. Fe’u defnyddiwyd yn y prosiect fel coron Brenin Coed y Môr, carw sy’n cynrychioli ysbryd y lle.
Roedd ‘Haenau yn y Dirwedd’ yn brosiect a oedd yn cymhwyso ‘mapio dwfn’ rhyngddisgyblaethol a heb hierarchaeth i dirlun tanddwr Bae Ceredigion, yn enwedig y goedwig danddwr yn y Borth. Wedi’i hysbrydoli gan y Mabinogi a chwedl Cantre’r Gwaelod, aeth Erin Kavanagh ati i ddwyn ynghyd arbenigwyr o ystod o ddisgyblaethau creadigol a gwyddonol (celf, gwyddor daear, archaeoleg, ieithyddiaeth, llenyddiaeth fodern a chanoloesol, llên gwerin, cerddoriaeth a chaneuon traddodiadol, creu ffilmiau a ffotograffiaeth) i gynhyrchu ymateb i foddi Bae Ceredigion dros 125,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwnaed hyn rhwng 2015 a 2018 ar ffurf gwaith academaidd a digwyddiadau cyhoeddus amlgyfrwng gan gynnwys arddangosfeydd yn y Borth a Llanbedr Pont Steffan, dan ymbarél geo chwedloniaeth, sef astudiaeth tirlun a stori. Anogwyd ymatebion gan y cyhoedd, ac aed â’r prosiect i lawer o gymunedau amrywiol ar draws y byd.

Darlun graffig o’r newid yn y ffin arfordirol, y cyrn ceirw cynhanesyddol a llên gwerin gysylltiedig.
Wrth brosesu’r archif hwn, agorwyd ein llygaid i’r posibilrwydd newydd wth gatalogio data archifol aml-fformat. Ni fydd yna lawer o archifau a fydd yn caniatáu cymaint o ryddid i arloesi, serch hynny – roedd natur y prosiect Haenau yn y Dirwedd yn benthyg ei hun i ddull newydd – ac rydym wedi gorfod catalogio’r deunydd graffig mewn fformat traddodiadol ar wahân o hyd; byddai’r cyfaddawd wedi bod yn fwy pe byddem hefyd wedi bod yn delio â’r tecstilau, cerflunwaith a cherfio pren a ffurfiodd ran o arddangosfeydd y prosiect. Er hynny, rydym wedi cael cipolwg diddorol ar sut y gall archifau aml-gyfrwng hybrid sy’n ymddangos ar chwâl ac yn drafferthus gael eu diogelu a’u cyflwyno mewn ffordd symlach sy’n hawdd ei gyrchu nag yr oedd arfer blaenorol yn ei ganiatáu.
