Archifau Gwent: Cofnodi 100 Mlynedd o Wasanaethau i Bobl Fyddar
Rydym yn cydnabod nad yw’r term ‘Deaf and Dumb’, a ddefnyddir o fewn teitlau sefydliadau a thestun y cyhoeddiadau hanesyddol hyn, bellach yn dderbyniol gan ei fod yn derm sarhaus, a gellir ei ddefnyddio’n anghywir.
Yn gasgliadau Archifau Gwent mae rhai o’r adroddiadau blynyddol ar gyfer ‘The Cambrian Institution of the Deaf and Dumb’, ac ‘Glamorgan and Monmouthshire Missions to the Adult Deaf and Dumb’. Wedi’i ysgrifennu 100 mlynedd ar wahân, maent yn dogfennu rhai o’r newidiadau i’r gwasanaethau a’r darpariaethau sydd ar gael i bobl Fyddar yn ystod y cyfnod hwn.
Sefydlwyd ‘The Cambrian Institution of the Deaf and Dumb’ yn 1847 ac roedd wedi’i leoli yn Abertawe. Amcan y Sefydliad oedd rhoi cyfarwyddyd i “blant byddar a mud, o bob rheng a chyflwr mewn bywyd, boed yn blant i rieni o Gymru, neu rieni sy’n byw yng Nghymru.” Nid oedd derbyniadau ar gyfer plant o dan 9 oed neu dros 13 oed.

Cambrian Institution of the Deaf and Dumb
©Gwent Archives

Mae’r adroddiad blynyddol ar gyfer 1868 i 1869 yn manylu ar roddion gan Arglwyddes Llanofer, Mr Henry Hughes o Bont-y-pŵl, Mr Thomas Cordes o Gasnewydd, a chynnwys blwch casglu yng Ngwesty’r Angel, Y Fenni. Cafodd y plant eu dysgu crefftau amrywiol: cafodd Catherine Morgan o Nant-y-glo ei dysgu sut i wneud gwisgoedd – dysgid eraill yn rhwymol llyfrau, teilwra neu wneud esgidiau.


Sefydlwyd ‘Glamorgan and Monmouthshire Missions to the Adult Deaf and Dumb’ yn 1869 – gyda’i gyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghapel Bedyddwyr Bethany yn Heol Eglwys Fair, Caerdydd. Nod y Genhadaeth oedd “hyrwyddo lles ysbrydol, moesol ac economaidd pawb sy’n fyddar ac yn fud” a rhoi cymorth i’r tlawd a’r anghenus, yn ogystal â darparu cyfieithwyr i’r Byddar i’w gynorthwyo gyda chyfweliadau, ymweliadau ysbyty, priodasau, angladdau a mwy.
Mae’r adroddiadau blynyddol ar gyfer y cyfnod 1963 i 1971 yn sôn am gyfarfodydd anffurfiol misol ar i gleifion byddar yn Ysbyty Pen-y-Fal, Y Fenni; trefnu lleoliadau gwaith yn Re-employ Limited, Abertyleri; a darparu gwasanaeth dehongli mewn priodasau ym Margoed, Cas-gwent a Chaerllion. Roedd y Genhadaeth hefyd yn cynnal gwasanaethau Sul yn eu canolfannau yng Nghasnewydd, Abertyleri a Chaerdydd.

Cambrian Institution of the Deaf and Dumb
©Gwent Archives

The Glamorgan and Monmouthshire Missions to the Adult Deaf and Dumb ©Gwent Archives
Mae’r ddwy set o adroddiadau blynyddol yn cynnwys gwyddor sillafu â bysedd yn y cefn – gan gofnodi mân newidiadau i iaith arwyddion Prydain dros gyfnod o 100 mlynedd.
Archifau Gwent
https://www.gwentarchives.gov.uk/