#CrowdCymru: Crynodeb Cyfnod 1

Jennifer Evans - Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol, Crowd Cymru

Helo bawb, Jen sydd yma, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol CrowdCymru.

Dyma ddiweddariad a crynodeb o’r cyfnod a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o’n prosiect gwirfoddoli archifau digidol. Dyma’r pumed erthygl mewn cyfres; i ddarllen y pedwar blaenorol, ewch i wefan Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a chwiliwch am ‘CrowdCymru’.

Wel, mae rhaid i bob peth da ddod i ben, a bydd yr erthygl hon yn crynhoi 16 mis o uchafbwyntiau prosiect, allbynnau, a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Sefydlwyd y prosiect hwn i dreialu cymuned dorfol fyd-eang i Gymru drwy gydweithrediad rhwng Archifau Gwent, Archifau Morgannwg, Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y nod oedd adeiladu llwyfan torfol a chymuned ar gyfer archifau yng Nghymru, trwy ddull cenedlaethol cydlynol na welwyd ei debyg o’r blaen yn y DU er mwyn harneisio gwybodaeth ac amser dinasyddion byd-eang i gyfoethogi meta data sylfaenol presennol, ehangu gwelededd y casgliadau archif sylfaenol hyn, a thanio ymchwil newydd.

Sgrin lun o’r llwyfan torfol yn dangos casgliad Cymuned Dociau Caerdydd
©Archifau Morgannwg

Mae ein huchafbwyntiau’n dechrau, wrth gwrs, gyda’r dinasyddion byd-eang hynny, grŵp gwirioneddol ryngwladol o wirfoddolwyr hynod o weithgar. Rwyf wedi dod i adnabod llawer ohonynt drwy sesiynau gohebiaeth a hyfforddiant ac mae eu cyfeillgarwch a’u brwdfrydedd i gefnogi gwaith gwasanaethau archifau wedi bod yn llawenydd. Maent wedi gweithio’n ddiwyd trwy’r holl gasgliadau a gyflwynwyd gan bartneriaid y prosiect. Maent wedi trawsgrifio llythyrau bardd rhyfel a dyddiaduron nyrs wirfoddol adeg y rhyfel, tagio ffotograffau o fewnfudwyr o ddechrau’r 20fed ganrif, lluniau o glwb rygbi ac athletau Cymreig, a chasgliad pwysig o effemera o grŵp lesbiaidd a hoyw o ddechrau’r 1980au.

Poster Grŵp Lesbiaid a Hoywon Gwent ©Archifdy Gwent

 

I nodi eu gwaith caled, rhoddwyd tystysgrif ddiolch electronig iddynt, a’u gwahodd i fynychu parti diwedd prosiect ar-lein ar 27 Tachwedd. Ymunodd cynrychiolwyr o’r sefydliadau partner hefyd i ddiolch yn bersonol a siarad am yr effaith ryfeddol y bydd eu gwaith yn ei chael ynghylch gwella mynediad a defnyddioldeb y casgliadau hyn yn y dyfodol.

Uchafbwynt arall fu ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys dau gofnod cylchgrawn Who Do You Think You Are a Chylchgrawn Aelodau’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion [ARC]. Fe wnaethon ni hefyd recordio podlediad ar gyfer The Archives & Records Association, fel rhan o Out the Box; cyfres o gyfweliadau diddorol gan bobl sy’n gweithio gydag archifau. I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr, fe wnaethon nhw recordio rhai penodau arbennig am wirfoddolwyr mewn gwasanaethau archifau, ac roedd #Crowd Cymru yn un ohonyn nhw. Gallwch wrando ar ein podlediad yma.

Cafodd wybodaeth am y brosiect ei gynnwys yn Adroddiad Agor yr Archifau 2023 Archifau Cymru, ac A Year in Archives 2023.

Agor yr Archifau [2023]

Canlyniad cyntaf y prosiect yw tudalen ar wefan Archifau Gwent: #CrowdCymru | Archifau Gwent sy'n cynnwys dolenni i'n holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau, erthyglau, delweddau, yr holl erthyglau blog sydd ar archifau.vs.mythic-beasts.com/, a gweithgaredd hyfryd i ddathlu diwedd y prosiect. Gofynnon ni i'n gwirfoddolwyr ddewis hoff ddogfen, delwedd neu gasgliad roedden nhw wedi gweithio arnyn nhw yn ystod y prosiect ond heb ddefnyddio mwy na 150 o eiriau. Daeth y syniad o brosiect gan Amgueddfeydd Brighton & Hove yn ystod 2022/2023. Cymerodd grŵp bach o’n gwirfoddolwyr ran yn yr ymarfer creadigol hwn a throwyd y canlyniadau yn gyflwyniad powerpoint a ddangosir yn y dathliad ar ddiwedd y prosiect. Gallwch ei weld yma:

Ein hail ganlyniad yw llawlyfr prosiect, sydd ar gael i’w weld fel PDF ar y dudalen we. Mae’r llawlyfr hwn wedi’i rannu’n ddwy ran; y cyntaf yw canllaw cam wrth gam i ddefnyddio’r llwyfan torfoli, gan gynnwys cofrestru cyfrif, trawsgrifio a chanllawiau tagio. Mae’r ail ran yn cynnwys nodiadau rheoli prosiect ar recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr, hyrwyddo a marchnata, a phrofiad o weithio ar brosiect a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn yr adran hon hefyd mae canlyniadau arolwg adborth gwirfoddolwyr a gwersi a ddysgwyd. Pwrpas y llawlyfr hwn yw rhannu arfer da a hwyluso ehangu’r cynllun peilot i gynnwys mwy o gadwrfeydd a phartneriaid ledled Cymru yn y dyfodol.

Gweithdy #CrowdCymru yn Llyfrgell yr Eglwys Newydd Medi 2023

Mae hyn yn arwain at yr hyn yr ydym wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a newyddion cyffrous am estyniad!

Fel y soniwyd uchod, daeth cam y prosiect hwn a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ben ar 30 Tachwedd. Fodd bynnag, gallwn barhau tan ddiwedd mis Mai 2024 gyda chyllid newydd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Daw hyn fel rhan o waith y llyfrgell ar brosiect Ein Treftadaeth, Ein Straeon sy’n cysylltu ag yn chwilio cynnwys digidol a gynhyrchir gan y gymuned i ddatblygu casgliad cenedlaethol y bobl. Felly, gall ein gwirfoddolwyr barhau i weithio ar wella mynediad i’r casgliadau hyn, a’n symud tuag at y camau nesaf yn ein gweledigaeth ar gyfer rhagolwg democrataidd, cysylltiedig byd-eang ar gyfer archifau cudd ac ymchwil newydd yng Nghymru.

Dyma ein post olaf i archifau.vs.mythic-beasts.com/; bydd erthyglau sy'n cofnodi cynnydd ail gam y prosiect #CrowdCymru yn ymddangos ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://blog.llyfrgell.cymru/

Hoffem ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Heb ei chyllid a’i chefnogaeth, ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl. Diolch hefyd i’r sefydliadau hynny yn y sector archifau a threftadaeth sydd wedi ein cefnogi gyda’u hamser, eu hegni a’u cefnogaeth ymarferol

Yn olaf, diolch yn fawr iawn i’n grŵp gwych o wirfoddolwyr eithriadol o weithgar a brwdfrydig, mae wedi bod yn fraint gweithio gyda chi, ac edrychwn ymlaen at rannu cam nesaf #CrowdCymru gyda chi i gyd.  

Jennifer Evans
Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Trydar: CrowdCymru
Ffôn: 01495 742450 
Ebost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk

Mae’r blog hwn o’r enw #CrowdCymru: Diweddariad Prosiect gan Jennifer Evans wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution 4.0