Archwiliwch eich Archifau: Chymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch

Bydd arddangosfa Archwilio Eich Archifau Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch yn agor yn Theatr y Glowyr yn Rhydaman ddechrau Ionawr 2024, lleoliad lle mae’r côr wedi perfformio sawl gwaith dros y blynyddoedd. Fel rhan o weithgaredd ar gyfer ymgyrch Archwilio Eich Archif, derbyniodd Archifau Sir Gaerfyrddin grant i gynhyrchu arddangosfa deithio i ddathlu cyflawniadau’r côr a’u hanes cyfoethog.

Dogfennau archifol amrywiol o'r Casgliad, wedi'u trefnu mewn trefn dyddiad yn arddull arddangosfa
©Archifau Sir Gaerfyrddin

Ffurfiwyd y côr ym 1917 a mwynhaodd yrfa hynod lwyddiannus am dros 100 mlynedd. Yn anffodus, daeth y côr i ben ym mis Medi 2022.  Chwaraeodd niferoedd sy’n lleihau, pandemig COVID ac oedran aelodau’r côr i gyd ran yn niwedd y côr nodedig hwn a oedd wedi bodoli ers dros ganrif. Fodd bynnag, dymuniad yr aelodau sy’n weddill oedd bod y cyflawniadau, yr hanes a’r bobl a oedd yn rhan o’r côr yn cael eu coffáu a’u dathlu un tro olaf.

Dogfennau archifol amrywiol o'r Casgliad, gan gynnwys llun du a gwyn o aelodau'r côr o 1920, a ffotograffau o'r arweinwyr drwy'r blynyddoedd
©Archifau Sir Gaerfyrddin

Mae gan Sian Thomas gysylltiad hoffus gyda’r côr ar ôl bod yn aelod am ran helaeth o’i bywyd, fel yr oedd ei mam o’i blaen. Mae Sian wedi casglu a chadw nifer fawr o ffotograffau, toriadau papur newydd a memorabilia eraill sy’n adrodd hanes y côr ers ei ffurfio yn 1917. Yr eitemau hyn sydd wedi ffurfio sylfaen yr arddangosfa. Mae llawer o’r dogfennau hyn bellach wedi’u digideiddio gan staff yn Archifdy Sir Gaerfyrddin, ac mae’r copïau hyn wedi cael eu defnyddio i greu’r baneri gwybodaeth sy’n ffurfio’r arddangosfa symudol. 

“Bydd y noson arddangos yn ffordd o ddweud DIOLCH YN FAWR i’r genhedlaeth o’n blaenau ni a ddechreuodd y côr, yn yr amseroedd a fu’n anoddaf, ac i ddyfalbarhau gyda’u hymrwymiad i’r Côr ac i’w gilydd; o gyfeillgarwch gwerthfawr a wnaed ar hyd y ffordd ac i’r rhai a ddaeth ar ôl iddynt brofi’r llawenydd pur o ganu. Dyna pam roeddwn i ac eraill eisiau cadw’r casgliad hanesyddol rhyfeddol hwn, ac mae cymeradwyaeth y grant Archwilio eich Archifau wedi ein galluogi i gyflawni ein nod.  Diolch yn fawr.”

Sian Thomas, Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch

Dogfennau archifol amrywiol o'r Casgliad, gan gynnwys lluniau du a gwyn o aelodau'r côr gyda'r teitl '1960 Ennill Coron Driphlyg'
©Archifau Sir Gaerfyrddin

Bydd arddangosfa ‘Archwilio Eich Archif: Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch’ yn agor yn Theatr y Glowyr yn Rhydaman ym mis Ionawr 2024. Yna bydd yn symud i Lyfrgell Rhydaman i ganiatáu cyfle arall i’r gymuned leol gael mwynhau’r arddangosfa. Unwaith y bydd taith yr arddangosfa wedi’i chwblhau, bydd y memorabilia a’r deunyddiau arddangos yn cael eu hadneuo gydag Archifau Sir Gaerfyrddin gyda’r Arddangosfa i’w gweld yn Llyfrgell Caerfyrddin.

Archifau Sir Gaerfyrddin