2014–16

Cymru’n Nerthu’r Byd

Roedd ‘Cymru’n Nerthu’r Byd’ a ariannwyd gan y Rhaglen Grantiau Catalogio Genedlaethol a Llywodraeth Cymru a ‘Forging Ahead’ a ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau, yn brosiectau â’r bwriad i ehangu mynediad at gofnodion y prif weithfeydd dur yn ne a gogledd Cymru, yn ogystal â phapurau’r prif undeb llafur, gan roi dealltwriaeth gynhwysfawr o wahanol agweddau ar y diwydiant.

Arweiniwyd y prosiectau gan Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe lle’r oedd staff academaidd yn awyddus i fynd i’r afael â phrinder y gwaith a wnaed ar hanes y diwydiant dur yng Nghymru.

Elwodd y gwasanaethau archifau partner o’r gwaith catalogio a chadwraeth manwl. Ochr yn ochr â hyn, enillodd gwirfoddolwyr sgiliau drwy hyfforddiant, gan wneud cyfraniad gwerthfawr i raglen lanhau ac ail-becynnu. Roedd y prosiectau yn ymdrin â’r casgliadau a ganlyn:

  • Cydffederasiwn y Masnachau Haearn a Dur, Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe
  • Casgliad Dur Prydain, Archifau Morgannwg
  • Cofnodion Gwaith Dur Brymbo, Archifdy Sir y Fflint ac Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam

Arweiniodd llwyddiant y cydweithrediad hwn ato yn cael ei gynnwys fel astudiaeth achos ‘The Art of Partnering’ yng Ngholeg y Brenin Llundain, ymchwiliad diwylliannol i’r ‘rôl y mae partneriaeth yn ei chwarae wrth alluogi sefydliadau diwylliannol a ariennir yn gyhoeddus i wella safon ac amrywiaeth eu gwaith’.

Mae’r casgliadau sy’n cael sylw yn y prosiect hwn hefyd yn gysylltiedig â daliadau pwysig eraill ar draws Cymru gan gynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith pellach o ran partneriaethau ac ymgysylltu â’r gymuned rhwng yr holl wasanaethau sy’n aelodau o CAChC. Mae gwneud y casgliadau hyn yn hygyrch yn gosod y sylfeini ar gyfer ystyried cyfeiriadau newydd o ran ymchwil a datblygu partneriaethau ar draws y sector.