Cofnodion mewn Perygl
Ym mis Chwefror 2021, dyfarnwyd grant i Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW) gan Gronfa Archifau Cenedlaethol Covid-19 i gyflawni’r Prosiect Cofnodion mewn Perygl. Sefydlwyd y prosiect hwn i adnabod cofnodion a oedd mewn perygl yn ystod pandemig Covid -19, ac i hwyluso strategaeth tymor hwy i gefnogi achub cofnodion yn y dyfodol.
Roedd amcanion y prosiect yn cynnwys:
- Arolwg o’r dirwedd cadw cofnodion yng Nghymru a chafodd gofnodion a oedd mewn perygl eu hadnabod;
- Adnabod proses i hwyluso achub cofnodion; a
- Datblygu fframwaith i gefnogi’r gweithgaredd hwn yn y tymor hwy.
Cafodd cwmnïau a aeth i drafodion ansolfedd yng Nghymru eu monitro, a throsglwyddwyd manylion cwmnïau o ddiddordeb i’r gwasanaeth archifau perthnasol. Cynhaliwyd arolwg o bell i gadw cofnodion o fewn busnesau ac elusennau, i ddysgu am eu harferion cadw cofnodion. Darparodd y prosiect hefyd arweiniad a chefnogaeth i’r sefydliadau hyn ar gadw eu cofnodion hanesyddol a oedd yn cynnwys canllawiau ar gadw a storio archifau, rheoli llwydni a rheoli plâu, cadwraeth ddigidol, a chynllunio ar gyfer trychinebau.
Datblygwyd a chyhoeddwyd pecyn cymorth ar-lein, i gartrefu adnoddau a chanllawiau am arolygu cofnodion a monitro risg. Bydd hyn yn galluogi i’r wybodaeth a’r profiad a gasglwyd trwy’r prosiect gael eu datblygu gan wasanaethau archifau yn y dyfodol.
Yn ogystal, comisiynwyd y Gynghrair Cadwraeth Ddigidol (DPC) i ddatblygu canllaw rhagarweiniol ar gadwraeth ddigidol ar gyfer busnesau bach.
Hoffem gydnabod y gefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, y Tîm Rheoli Argyfwng, Cyngor Archifau Busnes yr Alban, a phob un o’r archifwyr allanol a’r gweithwyr proffesiynol cofnodion hynny a gyfrannodd at gynllun a methodoleg y pecyn cymorth, a’r prosiect yn ei gyfanrwydd.



