Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Llyfrgell ac Archif Roderic Bowen, ar Gampws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn cadw Casgliadau Arbennig y Brifysgol gan gynnwys ei llyfrau printiedig, llawysgrifau a’r archifau hynaf. Llyfrgell ac Archif Roderic Bowen yw un o’r prif adnoddau ar gyfer ymchwil academaidd yng Nghymru.
Oriau Agor
Os hoffech ymweld â’r archifau, gwnewch apwyntiad o flaen llaw. Dydd Mawrth – Dydd Gwener: 09.30 – 16.30. (Ar gau 12.30 – 13.30)
