Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Y Comisiwn Brenhinol yw corff archwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ganddo ef y mae’r rôl arweiniol wrth sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig a morol Cymru’n cael ei chofnodi’n awdurdodol a’i deall yn iawn, ac mae’n ceisio hybu gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth hon yn genedlaethol a rhyngwladol.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Y Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Ffordd Penglais, Aberystwyth SY23 3BU

Oriau Agor

Dydd Mawrth – Ddydd Iau, 09:30 – 16:30

Eitemau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

  1. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: Casgliad R. E. Kay

    Darlun gan R.E. Kay yn dangos Eglwys Sant Fflorens, Sir Benfro. Fel y’i gwelir ar dudalen 285 o Gyfres I, Cyfrol II o Lyfrau Nodiadau R.E. Kay.

  2. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: Cofnod Adeiladau Cenedlaethol.

    Golygfa yn dangos Bryn Ffanigl Ganol gan G. Bernard Mason, Cofnod Adeiladau Cenedlaethol.

  3. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

    Llongddrylliad Cefn Sidan 2. Golygfa allanol arosgo lefel isel o’r blaen a’r pwll sgwrio cysylltiedig ar 21/02/2923.

  4. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

    Llun CBHC arosgo o’r awyr yn dangos Pen Y Crug. Tynnwyd gan Toby Driver ar 06/02/2009.

  5. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: Casgliad Falcon Hildred.

    Melin Pannu Moelwyn, Blaenau Ffestiniog; darlun yn dangos y stoc pannu ym Melin Moelwyn a sawl nodwedd sy’n nodweddiadol o felinau eraill, a gynhyrchwyd gan Falcon D. Hildred.

  6. Copi digidol o negatif nitrad yn dangos Siambr Gladdu Cefn Isaf. Swyddfa Cymru. 1921