Archifau Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth yn dal amrywiaeth mawr ac eang o ddeunydd archifol, y rhan fwyaf ohono un ai wedi’i gasglu gan y Brifysgol i gefnogi ei gwaith ymchwil neu addysgu, neu wedi’i adael i’r Brifysgol. Mae archif fawr hefyd o gofnodion a grewyd gan y Brifysgol, gan gynnwys deunydd cynnar yn gysylltiedig â’i sefydlu yn 1872.
Os ydych chi’n bwriadu ymweld ag Ystafell Ddarllen Prifysgol Aberystwyth, mae’n hanfodol eich bod yn archebu lle o flaen llaw, ac yn archebu unrhyw ddeunydd archifol yr hoffech ei weld o flaen llaw hefyd. Fel rheol rydym yn eich cynghori i wneud apwyntiad wythnos o flaen llaw i wneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu ar eich cyfer.
Oriau Agor

Dydd Llun – Dydd Mercher: 09:00-17:00 (ar gau am ginio 12:30-13:30)