Portreadau Balchder yn Archifau Sir Gaerfyrddin

Hayden Burns, Archifdy Sir Gaerfyrddin

Y mis hwn, roedd Archifau Sir Gaerfyrddin yn falch i groesawi adneuad o gasgliad syfrdanol o bortreadau a gipiwyd yn ystod Balchder Caerfyrddin 2024 – dathliad gwych o gynhwysiant, undod a llawenydd.

Roedd yr ŵyl, a gynhaliwyd yn Neuadd Ddinesig San Pedr a Rhodfa Santes Catrin, yn gymysgedd cyffrous o adloniant, stondinau cymunedol a gweithgareddau rhyngweithiol i’r mynychwyr, gan arwain at barti ar ôl hynny yn Rainbow’s End.

I goffáu’r achlysur, comisiynwyd y ffotograffydd enwog Mohamed Hassan gan LocalMotion – Caerfyrddin, mudiad dros gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, i greu cyfres gymhellol o bortreadau yn tynnu sylw at y mynychwyr. Adneuwyd y delweddau pwerus hyn yn swyddogol mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan Archifau Sir Gaerfyrddin, a byddant bellach yn cael eu cadw ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Hayden Burns, Rheolwr Trawsnewid yr Archifau: “Bydd y rhodd ysbrydoledig hon yn ychwanegiad gwerthfawr at gasgliad yr Archif, gan anrhydeddu ac arddangos cymuned LHDTC+ fywiog ardal Caerfyrddin.”

Ers cynnal ei Balchder swyddogol cyntaf yn 2022, mae Sir Gaerfyrddin wedi gweld y digwyddiad yn ffynnu i fod yn ddathliad cynyddol gynhwysol ac egnïol wrth hefyd godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n dal i wynebu’r gymuned LHDTC+.

Nodwch y dyddiad: mae Balchder Caerfyrddin 2025 wedi’i drefnu ar gyfer 30ain o Awst.