Creu Darlun o’r Gorffennol: Jig-sos wedi’u Hysbrydoli gan Archifau Bellach ar Gael mewn Llyfrgelloedd Lleol

Sarah Roberts. Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae ffordd unigryw a difyr o archwilio hanes lleol wedi cyrraedd llyfrgelloedd lleol yn Sir Ddinbych!  Diolch i fenter wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, bellach gall defnyddwyr llyfrgelloedd fwynhau cwblhau jig-sos yn seiliedig ar ein casgliadau.  Mae’r posau newydd hyn wedi’u dylunio gan y tîm yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.  Maent yn cynnwys rhannau gweledol o’n casgliad, yn cynnwys golygfeydd wedi’u paentio â llaw a tharianau herodrol lliwgar.

Mae dau ddyluniad ar gael mewn dau wahanol faint.  Mae pob pos yn arddangos gwahanol ddarnau o hanes lleol.  Mae’r dyluniad 48 darn yn cynnwys tudalen o lyfr o darianau herodrol o’r ail ganrif ar bymtheg o’r enw “The Painted Book” sy’n rhan o’n casgliad ystâd mwyaf a gedwir yn Sir Ddinbych.  Mae’r ddelwedd wedi’i hatgynhyrchu gyda chaniatâd caredig Teulu Williams-Wynn. I’r rhai mwy eiddgar, mae’r dyluniad 1,000 o ddarnau yn cynnwys golygfeydd hanesyddol o Sir Ddinbych, yn cynnwys tref brydferth Llangollen a phromenâd Fictoraidd y Rhyl.

“Ers i ni gyflwyno ein llyfrgell jig-sos 3 blynedd yn ôl, maent wedi bod yn hynod boblogaidd gyda darllenwyr ein llyfrgelloedd.   Mae gennym amrywiaeth o jig-sos ar gael i oedolion, sy’n amrywio o 35 i 1,000 o ddarnau.  Maent yn wych ar gyfer ymlacio a rhyddhau straen.  Gallant hefyd helpu gyda medrusrwydd llaw” dywedodd Deborah Owen, Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych, “Roeddem yn gyffrous iawn i weithio gydag Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru i ychwanegu rhywfaint o jig-sos wedi’u hysbrydoli gan yr ardal leol i’n casgliad.”

Mae’r jig-sos wedi’u hysbrydoli gan archifau ar gael i’w benthyg o bob un o’r wyth llyfrgell gangen, gan ddechrau’r mis hwn.  Mae pob pos yn dod gyda chyd-destun hanesyddol cryno i wella’r profiad dysgu ac annog trafodaeth.  Gydag amryw o wahanol feintiau a lefelau anhawster ar gael, mae yna rywbeth i bawb — o ddechreuwyr i’r rhai sy’n frwd am ddatrys posau.

I ddod o hyd i’ch llyfrgell agosaf a’r oriau agor, ewch i’w gwefan ar: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/llyfrgelloedd/eich-llyfrgell-leol

Pwy fydd y cyntaf i ymgymryd â’r her 1,000 o ddarnau a’i chwblhau?

Mae’r jig-sos wedi’u hysbrydoli gan archifau ar gael i’w benthyg ym mhob un o’r wyth llyfrgell gangen, gan ddechrau’r mis hwn.  Gydag amryw o wahanol feintiau a lefelau anhawster ar gael, mae yna rywbeth i bawb — o ddechreuwyr i’r rhai sy’n frwd am ddatrys posau.  Hoffem weld eich jig-sos gorffenedig, rhannwch nhw gyda ni ar ein tudalen Instagram neu Facebook, tagiwch ni ynddynt a defnyddiwch yr hashnod #PosArchif