Trawsnewid Gofal Casgliadau yn Archifau Gwent: Diweddariad
Ym mis Tachwedd fe wnaethom gyflwyno’r prosiect ‘Trawsnewid Gofal Casgliadau yn Archifau Gwent’, a ariannwyd gan Raglen Gwella Cyfalaf Rheoli Casgliadau Llywodraeth Cymru (gweler https://archives.wales/2024/11/21/transforming-collections-care-at-gwent-archives/). Nawr, hanner ffordd drwy’r prosiect, dyma ddiweddariad ar gynnydd hyd yn hyn.
Yn sicr mae hi wedi bod yn gyfnod prysur! Cam cyntaf y prosiect oedd gosod silffoedd symudol newydd yn un o’n hystafelloedd diogel. Ond dros y blynyddoedd roedd yr ystafell hon wedi dod yn Ystafell Ynysu ‘orlawn’ felly yn gyntaf, roedd angen ei chlirio. Roedd angen triniaeth o ryw fath ar yr archifau a oedd yn cael eu storio yno er mwyn eu diogelu.
Fe wnaethom benderfynu mai’r Nadolig fyddai ein terfyn amser i weithio ar yr eitemau a chlirio’r ystafell, a diolch i ymdrechion ein gwirfoddolwyr gwych, yn ogystal â’n Cadwraethwr, Cynorthwyydd Cadwraeth a 2 Gynorthwyydd Archif, fe wnaethom ni lwyddo. Cafodd silffoedd di-ri o gasgliadau eu glanhau a’u pacio mewn blychau archif gan ein staff a’n gwirfoddolwyr gwych. Cafodd bron i 150 o ffotograffau / delweddau o gasgliad Clwb Rygbi Casnewydd eu tynnu o’u fframiau i’w storio’n barhaol.


O ganlyniad, trawsnewidiwyd yr ystafell hon, a chafodd y silffoedd newydd eu gosod ar ddechrau mis Ionawr:



Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, rydym hefyd wedi prynu offer ychwanegol ar gyfer cadwraeth, gan gynnwys gilotîn ar gyfer gwaith trwm, fel y gallwn wneud blychau pwrpasol i ddiogelu’r casgliadau.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar y cam nesaf, a fydd yn golygu y bydd yr ystafell storio eitemau cadwraeth yn cael ei hailwampio fel y gellir storio deunyddiau yn well. Mae’r tîm cadwraeth yn defnyddio offer arbenigol, sy’n gofyn am lawer iawn o fannau storio, ac mae’r silffoedd presennol yn rhy fach o lawer. Mae’r lluniau isod yn dangos y cynnydd hyd yn hyn a byddwn yn rhannu’r diweddaraf ar ddiwedd y prosiect.


Y cam olaf fydd yn creu’r llanast mwyaf… rydym yn tynnu wal i lawr rhwng yr ystafell gatalogio ac ystafell drws nesaf sy’n segur i greu mwy o le i gatalogio’r casgliadau.
Rydyn ni’n postio’r newyddion diweddaraf am ein prosiectau yn rheolaidd ar ein cyfryngau cymdeithasol, felly dilynwch ni i ddarganfod mwy!
@gwentarchives



