Antur yn yr archifau

Aeth criw o blant Uned Myrddin ar antur greadigol i ddarganfod beth sy’n digwydd tu ôl i’r llenni yn Archifau Sir Gaerfyrddin. Yn ystod eu hymweliad, cawsant gyfle i weld y casgliad gwych o ddogfennau, ffotograffau a mapiau sydd gan y gwasanaeth. Yn ôl yn yr ysgol, cawsant gyfle i weithio gydag artistiaid lleol, Seren Stacey a Teena Gould, i arbrofi gyda phrintio, ffotograffiaeth heb gamera a thechnegau cerameg. Gan ddefnyddio’r sgiliau newydd hyn fe wnaethon nhw greu darn o waith celf sydd bellach yn cael ei arddangos yn barhaol yn ystafell chwilio’r gwasanaeth archifau.
Diolch am y gefnogaeth wych gan holl staff Uned Myrddin, Archifau Sir Gaerfyrddin a’r dysgwyr gwych.



Taith tywys o amgylch gweithfeydd mewnol yr archifau.


Ceisio datrys dirgelwch yr hen luniau o lleoedd a phobl Sir Gaerfyrddin i greu collage.


Arbrofi gyda chlai.



Printio colograff wedi’u hysbrydoli gan nodweddion ar fapiao.


ArchwiIio’r ffurfiau cynharaf o ffotograffiaeth trwy argraffu cyanotype.


Gwneud platiau 2D gan ddefnyddio dwylo, offer a chlai o wahanol liwiau wedi’u hysbrydoli gan fap cant mlwydd oed.


Arddangosfa parhaol o waith creadigol y criw. Gallwch weld y gwaith celf hyfryd yma pan fyddwch yn ymweld ag Archifau Sir Gaerfyrddin.
Diolch i Lywodraeth Cymru a Chyngor Archifau a Chofnodion Cymru am ariannu’r prosiect hwn.