Dianc i’r Aifft: Gwyliau Nadolig 1888 Rachel M Allen

Elliot MacMillan, Cynorthwy-ydd Archifau & Astudiaethau Lleol, Archifdy Sir Benfro

‘It seems almost impossible to believe that this really is Xmas Day, warm sunshine, blue sky, windows wide open, no sign of a fire anywhere.’

Cyflwyniad

Roedd Nadolig 1888 yn achlysur arbennig iawn i Rachel M Allen (1861-1949). Fe gyfnewidiodd dywydd gaeafol Cymru am amgylchedd poeth, tywodlyd ac egsotig yr Aifft. Yn Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro cewch weld ei dyddlyfr teithio o’i gwyliau rhwng Dydd Iau 15 Tachwedd 1888 a Dydd Mercher 2 Ionawr 1889.  Treuliwyd pythefnos yn hwylio i lawr arfordir Portiwgal a thrwy Fôr y Canoldir, gan aros yn Gibraltar a Malta, cyn cyrraedd yr Aifft. Aethant wedyn ar fordaith ar afon ar y SS Rameses gan archwilio nifer o safleoedd hynafol Eifftaidd. Mae’r dyddlyfr yn gorlifo â nodiadau ar hen bethau Eifftaidd, ei hymwneud â’r bobl leol, ac – o’r diddordeb mwyaf – ei darluniau. Yn y blog hwn, edrychwn ar ei hanturiaethau dros gyfnod y Nadolig yn yr Aifft.

Nadolig

Ar Noswyl Nadolig, nododd Rachel sut yr oedd yn teimlo’n wahanol o’i gymharu â’r arfer adeg honno’r flwyddyn, gan nodi ‘it seems quite impossible to believe that tomorrow is really Xmas Day, it has been very hot all day and we have been trying to evade the mosquitoes.’ Y diwrnod hwnnw roeddynt wedi gadael SS Rameses, y llong a oedd wedi mynd â nhw ar fordaith ar hyd y Nîl am yr ugain diwrnod blaenorol. Yn y prynhawn, fe wnaethant ychydig o siopa Nadolig funud olaf, gan fynd i’r Bazaars yng Nghairo gan ‘purchased a dozen brass finger bowls’.

Delwedd ddu a gwyn o'r llong SS Rameseses,

Ar fore Nadolig aeth Rachel i wasanaeth yr eglwys am 8am, ac yna un arall am 10.30am. Roedd yr eglwys yn ‘crowded to overflowing’ ac wedi’i haddurno â myrtwydd, rhosod, a phalmwydd. Mae pamffled a ganfuwyd wedi’i blygu a’i osod mewn poced yn y cefn yn datgelu bod y gwasanaethau yn Ddathliad o Gymun Sanctaidd a Gwasanaeth Boreol a Phregeth wedi’u rhoi gan Charles H. Butcher. Fe’i cynhaliwyd yn Eglwys yr Hollseintiau, Cairo, a oedd wedi’i chwblhau deng mlynedd yn gynharach. Gyda llaw, agorwyd ail eglwys ym 1938 a dyluniwyd gan ŵyr Syr George Gilbert Scott a adferodd Eglwys Tyddewi.

Taflen i hysbysebu gwasanaethau arbennig Nadolig a Blwyddyn Newydd  yn Eglwys yr Holl Saint, Cairo

Ar ôl yr eglwys, dychwelodd y teulu i Westy’r Shepherds (lle’r oeddynt yn aros) gan wledda ar ginio Nadolig. Roedd hyn yn cynnwys cig eidion rhost, twrci, pwdin Nadolig ar y tân, a phwnsh. Addurnwyd yr ystafell fwyta â phalmwydd, garlantau o boinsetia, a phlanhigion pupur o amgylch y pileri. Rhoddwyd tusw o rosod i’r holl westeion. 

Efallai nad oedd hanner cyntaf y diwrnod yn rhy wahanol i’w phrofiad arferol ar Ddydd Nadolig. Ond yna yn y prynhawn, aeth gyda’i thad i’r Amgueddfa Boulak i weld y mymïod a oedd ar arddangos. Roedd y rhain yn cynnwys Ramses II a Setti I, a bu Rachel yn eu braslunio.

Dwy dudalen o'r dyddlyfr gyda chofnodion ysgrifenedig ar gyfer diwrnod Nadolig, a brasluniau o mymïod Ramses II a Setti I

Ar yr un dudalen y mae braslun o ffigwr pren, y mae’n honni oedd yr ‘oldest known bit of carving, & very fine’. Yn ystod eu diwrnod llawn cyntaf yn yr Aifft ar 30 Tachwedd, dim ond awr yr oeddent wedi gallu’i dreulio yn yr amgueddfa. Felly, roedd dychwelyd heb os yn anrheg i’w groesawu i Rachel, a oedd wedi gwneud nodiadau ar naw o’r mymïod, gydag un â’i geg a’i ffroenau wedi’u llanw ag arogldarthau, ac ar wyneb un arall roedd y gwythiennau a’r crychau i’w gweld.

Dwy dudalen o'r dyddlyfr gyda nodiadau ysgrifenedig ar naw o'r mymïod

Teimlwyd y newid i’w hamgylchoedd arferol yn llym adeg hon y flwyddyn, gyda Rachel yn gorffen ei diwrnod yn pendroni beth fyddai ei ffrindiau yn Llundain yn ei feddwl pe bai nhw’n gallu’i gweld wrth iddi farchogaeth heb gyfrwy ochr gan ddweud ‘it is curious to be in a country where Xmas Day is not kept’ gan fod pobl yn eu gwaith fel arfer.

Dydd San Steffan

Yn lle mynd i’r eglwys, treuliwyd bore dydd San Steffan yn sicrhau hawlenni i weld dau balas yng Nghairo, yr aethant i’w gweld wedyn yn y prynhawn. Yn anffodus, ni chafwyd adroddiad da, roeddynt ‘by no means worth a visit, all stucco, lath and plaster and gawdy “French” furniture in bad taste.’ O’i gymharu â beddrod y mymïod, obelisgau, a themlau hynafol y daethant ar eu traws  yn ddyddiol ar eu mordaith ar afon Nîl, does fawr o syndod na chafodd Rachel fawr o fwynhad mewn ffasiynau modern.

Roedd y diwrnod canlynol yn llawer mwy diddorol i Rachel, wrth iddi ymweld â Phrifysgol El Azhar, ‘the principal University of the Mohammedan world.’ Disgrifiodd y cwrt a’r ystafelloedd dosbarth, gan nodi sut yr oedd y myfyrwyr yn eistedd ar y llawr mewn cylch o amgylch eu hathro. Yn benodol, canolbwyntiodd ar un bachgen a ddefnyddiodd ffon bambŵ fel beiro, ysgrifennu ar ddarnau o dun, ac yn dal pot o inc rhwng ei draed. Ymhlith y gwersi a ddysgwyd oedd gramadeg, algebra, rhifyddeg, rhesymeg, athroniaeth, diwinyddiaeth, a’r Koran. Wrth gyfeirio at yr olaf, dywedodd Rachel:

It struck me as most remarkable to find hundreds of youths, deeply engrossed in studying their ‘Bible’. We should not find the same thing going on at Oxford or Cambridge…It is sad to think that while we Christians are fighting among ourselves and excluding all Bible teaching as much as possible from our places of education, the Mohammedans are making the Koran their chief and most engrossing study.’

Drwyddi draw’r dyddlyfr daw hi’n amlwg fod Rachel yn wraig hynod grefyddol. Nid yn unig y byddai’n mynychu’r eglwys yn aml tra ar wyliau gan ddod i adnabod aelodau’r eglwys, ond hefyd ceir naw tudalen ar y diwedd lle mae’n cymharu ei phrofiad â darnau o’r Beibl. Er enghraifft, roedd y camelod yn ei hatgoffa o’r darn ‘drwy grau nodwydd’ o Marc, ac roedd yr haul tanbaid yn ei hatgoffa o Salm 121:6 ‘Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd.’

Dwy dudalen o'r dyddlyfr

Mae’r tudalennau yn ymwneud â’r brifysgol yn arwydd o’i harsylwadau o bobl a diwylliant yr Aifft. Roedd gan Rachel yr un chwilfrydedd tuag at y bobl â’r creiriau hynafol. Mae eu dillad, eu masnach, a’u diwydiant yn cael eu harsylwi gyda Rachel, er enghraifft, yn cynnwys brasluniau o’r siadwff – dyfais a ddefnyddiwyd i godi dŵr o afon Nîl.

Tudalen o'r dyddlyfr sy'n cynnwys brasluniau o'r shaduf

P’un a oedd hynny ar drên, wrth farchogaeth camelod, gwthio drwy farchnadoedd, neu sgramblo i fyny’r Pyramid Mawr, creodd weithredoedd, ystumiau, ac ymddangosiad y bobl leol argraff arni. Mae gradd o edliw safon byw’r bobl gyda Rachel yn cwyno am eu noethni, eu haflendid, a’u creulondeb tuag at anifeiliaid. Digwyddiad cyson drwyddi draw yw pobl o bob oed yn cardota, ar brydiau hyd yn oed yn hela ac yn cwrso hi a’i chymdeithion. Mae’r sôn cyson am hyn yn rhoi argraff o boblogaeth dlawd. Ar y cyfan, serch hynny, mae arsylwadau Rachel yn darllen fel sylweddoliad difrif o ba mor wahanol yw bywyd rhwng dau ddiwylliant gwahanol iawn, yn bennaf oherwydd eu crefydd a’u hinsawdd. Mae hefyd yn cynnig mewnwelediad i’w tywyswyr, ac wedi ymweld â gwraig un ohonynt hyd yn oed. Cyn iddi ddychwelyd i Gairo o’r Rameses, bu’n braslunio ei thywyswyr a gadael iddynt ysgrifennu eu henwau yn Arabeg oddi tanodd.

Dwy dudalen o'r dyddlyfr sy'n cynnwys brasluniau o'i tywyswyr

Blwyddyn Newydd

Yn wahanol i lawer ohonom y dyddiau hyn, pan fydd y cyfnod rhwng San Steffan a’r Flwyddyn Newydd yn diflannu i’r gwagle, roedd Rachel yn brysur iawn i’r pwynt nad oedd ei chofnod nesaf ar ôl 27 hyd at ddydd Mercher 2 Ionawr 1889. Ar Ddydd Sadwrn 29, teithiodd i’r Heliopolis gyda’i thad a’r ‘Beaming Browne’. Mr Browne oedd hwn yr oeddynt wedi ymgyfeillio ag ef ar y diwrnod cyntaf. Ar ôl ei chyfarfod cychwynnol, disgrifiodd Rachel ef ‘the very good tempered, white-bearded clergyman, with the velvet cape’, ac yn ddiweddarach ‘a Devon parson, out on a holiday, intensely pleased with everything’. Aeth eu diwrnod gyda’i gilydd yr un peth, ‘a very pleasant and most interesting expedition.’ Ar y diwrnod allan o Gairo fe aethant i weld ‘The Virgin’s Tree’ coeden sycamorwydden y bu Mair yn gorffwys oddi tani wrth ddianc o’r Aifft. O amgylch y goeden roedd rheiliau yn atal pobl rhag cerfio eu henwau neu ei difrodi fel arall, ac yn lle hynny fe’u caniatawyd i ysgrifennu ar y rheiliau. Mae pryderon cadwraeth o’r fath yn nodwedd arall ar broses feddwl Rachel pan fyddai’n gweld safleoedd o ddiddordeb hanesyddol.

Tudalen o'r dyddlyfr sy'n cynnwys braslun o The Virgin's Tree

Ar ôl cael ei diddanu ar fferm estrys a oedd yn gartref i wyth cant o adar, fe gyrhaeddant Heliopolis, a oedd wedi’i throchi mewn arwyddocâd. Dywedir mai dyna’r fan lle astudiodd Moses a Plato, ynghyd â chartref tad yng nghyfraith Joseff, a oedd yn offeiriad. Y prif beth i’w weld ar eu hymweliad, serch hynny, oedd un obelisg unig, ‘the oldest in Egypt.’ Er gwaethaf yr olion prin, dymuniad Rachel fyddai wedi gallu aros tair i bedair awr arall i greu braslun gofalus, ond:

‘that was impossible. Father and beaming Mr Browne were walking up and down waiting for me to be ready, so I could only do a very hasty outline – and actually some rain came on – just a very short shower, but a big drop fell right into the middle of the wash of colour I was putting over the obelisk.’

Yn ffodus, cafodd ‘hasty outline’ ei gynnwys yn y dyddlyfr, ond nid am y tro cyntaf cyfeiriodd Rachel at ddarlun a wnaed ar wahân, nad oes gennym gopi ohono yn anffodus.   Pa bryd bynnag y byddai’n cael cyfle, byddai’n braslunio. Yn yr un modd, mae’n crybwyll 28 ffotograff datblygodd ei thad ar ôl eu mordaith ar afon Nîl. Trueni na allem eu casglu ynghyd! Ond mae’r delweddau sydd yn bodoli yn y dyddlyfr yn dod â’i geiriau yn fyw mewn modd hyfryd ac mae’n ychwanegu swm aruthrol o gyffro. Er enghraifft, mae’n cynnwys darlun o un o’r blodau cotwm ‘beautiful, delicate bright yellow’ y casglodd ar ei siwrnai yn ôl o Heliopolis ‘in all its stages of flower’. Gall rywun ei dychmygu’n rhwydd yn eistedd i’w ddarlunio naill ai ar ochr y ffordd neu unwaith yr oedd yn ôl yn ei hystafell yn y gwesty.

Tudalen o'r dyddlyfr sy'n cynnwys braslun o'r obelisk hynaf yn yr Aifft

Nos Galan fe wnaethant adael Cairo ac aethant ar y trên i Alexandria gan dreulio bore dydd Calan yn archebu lleoedd ar daith i Athens. I ddathlu’r Flwyddyn Newydd a’u diwrnod olaf yn yr Aifft, fe aethant ar  ‘an afternoon hop’ rhwng 3pm a 5.30pm ar HMS Carysfort, ar ôl derbyn gwahoddiad gan y Capten Pringle.  Ar yr argraff gyntaf, mae’n ymddangos mai dim ond cofio amdano wnaeth Rachel, gan iddi ei gyflwyno ar hap gyda ‘and then…oh, frivolity…’. Beth bynnag, fe wnaeth y ddau fwynhau eu hunain gyda Rachel yn esbonio ‘I was thankful for an amusement for Father and went gladly.’ Y bore canlynol, fe wnaethant ‘steamed out of the harbour of Alexandria, bade adieu to sunny Africa, and rolled away to Greece.’

Tudalen o'r dyddlyfr sy'n cynnwys braslun o olygfa Alexandria o ddec cwch.

Ni chrybwyllir o fewn y dyddlyfr bod Rachel yn mynychu gwasanaeth eglwys yr Holl Seintiau yn y Flwyddyn Newydd. Serch hynny, ar gefn y pamffled a enwyd uchod y mae arysgrif gan Butcher yn ddyddiedig ‘Last Sun in 1888 Cairo’, felly ar ryw bwynt fe wnaeth hi o leiaf gweld y caplan. Mae’r nodyn yn dweud:

‘Live a larger life / Take interest in as many others as possible / Make as many lives bright as you can’.

O’r dyddlyfr hwn yn unig, mae’n amlwg iawn ei bod hi eisoes wedi gwneud hynny.

Yn y dyfodol gobeithiwn rannu mwy o fewnwelediadau i’r dyddlyfr hwn gyda chi, ond yn y cyfamser mae’r rhain (ynghyd â’i dyddlyfrau teithio yng Nghymru a’r Swistir) ar gael i’w gweld yn Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro.