Daith i Lawr Lôn Atgofion: Casgliad Sgriptiau’r BBC

Emma Towner, National Library of Wales

Mae dros 1,000 o focsys yn Sgriptiau’r BBC (Rhodd 2019), yn cynnwysbron â 250,000 o sgriptiau teledu a radio sy’n ymestyn dros 80 mlynedd o 1931 ymlaen. Rwy’n credu ei bod yn ddiogel i ddweud bod y casgliad yn cynnwys rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i bawb. Mae’r sgriptiau teledu a radio yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel chwaraeon, celf a cherddoriaeth, drama, straeon, newyddion, apeliadau, crefydd, ysgolion, sioeau amrywiaethol a rhaglenni plant. Mae’n berffaith ar gyfer mynd ar daith i lawr lôn atgofion.

Beth oedd eich hoff raglenni radio a theledu pan oeddech chi’n iau? Ai’r dramâu Awr y Plant oedd yn cael eu darlledu’n ddyddiol dros y radio, neu efallai roeddech yn mwynhau gwylio Bilidowcar?

©BBC

Mae yna straeon hudolus am gestyll tywod, tywysogesau a thywysogion, môr-ladron, y Mabinogion, y Brenin Arthur, a sgriptiau Gari Tryfan, heb son am amryw o ddramâu. Mae yna sgript gynnar, ‘sgript ymarfer’, wedi’i hysgrifennu gan Gwenlyn Parry ar gyfer Pentrefelin – rhaglen a fyddai’n cael ei hailenwi’n ‘Pobol y Cwm’, y rhaglen sebon teledu Cymraeg hiraf, ac mae’r sgript wedi cael ei harddangos yn arddangosfa Trysorau’r Llyfrgell.

Yn anffodus, mae rhai sgriptiau yn anodd eu darllen fel newyddion torcalonnus Aberfan.Maen nhw’n adnodd cyfoethog o hanes oherwydd maent yn cynnwys newyddion cafodd eu darlledu yn ddyddiol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

©BBC

Gyda rhaglenni newyddion o 1939 tan 1997, efallai y byddech yn darganfod beth oedd yn y newyddion ar y diwrnod cawsoch chi eich geni? Neu gyda sgriptiau rhaglenni chwaraeon o 1953 i 1997, efallai y dewch chi o hyd i sgript o gêm bêl-droed, gêm rygbi neu dwrnamaint arall yr oeddech wedi gwylio ar deledu, neu ei wrando ar y radio. Efallai, o bosib, roeddech chi yno?

©BBC

Gellir defnyddio’r sgriptiau gyda chasgliadau eraill yn y Llyfrgell fel T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams, Emyr Humphreys, ac yr Archifau Gwleidyddol a Cherdd. I gyd-fynd â rhai o’r sgriptiau, mae arnodiadau ysgrifenedig a dwdlau sy’n ychwanegu at eu gwerth a’u diddordeb. Mae’r arnodiadau hyn yn cynnig cipolwg at y broses o ysgrifennu sgriptiau.

Rydych chi’n gallu gweld y gwahaniaeth o’r sgript wreiddiol a’r sgript orffenedig a fyddai’n cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu. Mae rhai sgriptiau yn ‘sgriptiau camera’ sy’n rhoi naws ddiddorol tu ôl i’r llenni i sut cafodd y rhaglenni eu creu. Mae’r sgriptiau yma yn adnodd da i’r rhai sy’n astudio ffilm neu deledu. Nid yw mwyafrif y sgriptiau hyn wedi cael eu catalogio eto, ond mae llawer iawn yn y catalog yn barod, a bydd mwy yn cael eu hychwanegu bob dydd. Gewch chi ddod a hyd o’r catalog yma. Os ydych yn chwilio am rywbeth, neu oes gennych chi ddiddordebau, ac nac oes sgriptiau yma yn ein catalog hyd yn hyn, cysylltwch â ni trwy gofyn@llgc.org.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu.