Trawsnewid Gofal Casgliadau yn Archifau Gwent

Diolch i Lywodraeth Cymru, a’u Rhaglen Gwelliannau Cyfalaf Rheolaeth Casgliadau, bydd y tîm yn Archifau Gwent yn treulio’r 6 mis nesaf yn trawsnewid nifer o’n hystafelloedd prosesu casgliadau i greu lle mwy effeithiol i ofalu am ein harchifau.

Bydd £80,000 yn caniatáu i ni:

  • Aildrefnu’r ystafell digideiddio bresennol fel ystafell brysbennu ar gyfer asesu casgliadau newydd, adnabod eitemau a allai fod yn llaith, wedi llwydo, â phlâu neu sydd angen gwaith cadwraeth ac ail-becynnu casgliadau newydd mewn blychau archif.  Bydd yr offer digideiddio’n cael ei symud i ystafell lai fel bod lle’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol.
  • Gosod silffoedd symudol mewn ystafell ddiogel nad yw’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd er mwyn ei defnyddio fel ystafell neilltuo ar gyfer unrhyw eitemau y mae angen eu neilltuo er mwyn atal traws-halogiad, er enghraifft, os ydyn nhw wedi eu heffeithio gan lwydni, plâu neu leithder.  Bydd cwpwrdd storio oer yn cael ei brynu ar gyfer eitemau y mae angen eu trin trwy eu rhewi.
  • Ailosod yr ystafell storio cadwraeth i storio deunyddiau’n well, gan greu lle yn y stiwdio gyfagos ar gyfer offer ychwanegol fel gilotîn haearn ar lawr ar gyfer gwneud blychau.  Bydd byrddau y gellir newid eu huchder yn cymryd lle’r byrddau gwaith presennol i wella hygyrchedd.
  • Cynyddu’r ‘ystafell waith’ bresennol, ble mae gwaith catalogio’r casgliadau’n digwydd, er mwyn cynnwys ystafell drws nesaf nad yw’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd.  Bydd hyn yn caniatáu i fwy o staff gatalogio’r casgliadau, gan osod mwy o gasgliadau ar gael ar gyfer ymchwil, a bydd byrddau y gellir newid eu huchder yn cynyddu hygyrchedd.  
©Gwent Archives

Dechreuodd y gwaith yn gynnar yn Nhachwedd a bydd yn dod i ben erbyn diwedd Mawrth 2025.  Ni ddylai fod yna unrhyw effaith ar fynediad i’r casgliadau yn Archifau Gwent, ond efallai bydd rhywfaint mwy o sŵn nag arfer!

Ein prosiect cyntaf yw gosod y silffoedd symudol mewn ystafell ddiogel fach, ond mae angen clirio’r archifau allan o’r ystafell yn gyntaf.  Mae angen gwaith cadwraeth o ryw fath ar yr holl archifau sydd yno, fel  

  • tynnu lluniau allan o’u fframiau gan fod y fframiau’n swmpus, wedi eu gwneud o ddeunyddiau asidig ac maen nhw wedi dechrau ymddatod  
  • glanhau dogfennau sydd wedi eu heffeithio gan lwch, pridd a phethau dinistriol eraill.
©Gwent Archives

Mae digon i bawb wneud gyda’n gwarchodwr i orffen y gwaith yma’n barod ar gyfer y silffoedd newydd, gyda’n cynorthwyydd cadwraeth yn glanhau eitemau brwnt iawn gan ddefnyddio bwrdd tynfa aer i dynnu’r llwch o’r awyr ac atal anadlu’r llwch, cynorthwywyr archif yn tynnu’r lluniau o’u fframiau yn ogystal â gwneud peth gwaith glanhau ysgafn, a’n gwirfoddolwyr anhygoel hefyd yn helpu gyda’r glanhau mwy ysgafn. 

Byddwn yn rhoi mwy o newyddion am y prosiect yn rheolaidd yn y cyfryngau cymdeithasol, felly dilynwch ni i wybod mwy!

YouTube: https://youtube.com/@gwentarchives9050
Instagram: https://www.instagram.com/gwentarchives/
X: https://x.com/GwentArchives
Facebook: https://www.facebook.com/GwentArchives

@gwentarchives