Rhandiroedd yng Nghymru: o hanfodol adeg y rhyfel i fannau gwyrdd modern
Rhandiroedd adeg y rhyfel
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth rhandiroedd yn rhan hanfodol o fywyd yng Nghymru ac ar draws y DU. Gyda mewnforion bwyd wedi’u cyfyngu a’r dogni ar y ffordd, lansiwyd yr ymgyrch “Cloddio am Fuddugoliaeth” (Dig for Victory) ym 1939. Roedd y fenter hon yn annog pobl i drosi unrhyw ddarn o dir sydd ar gael yn erddi llysiau. Trawsnewidiwyd parciau, caeau chwaraeon, a hyd yn oed gerddi addurniadol yn rhandiroedd. Erbyn diwedd y rhyfel roedd 1.4 miliwn o randiroedd ledled y DU. Defnyddiwyd llysiau a dyfwyd yno i ategu’r dognau bwyd swyddogol, gan helpu teuluoedd i fwyta cynnyrch ffres er gwaethaf y prinder.

Cynhaliwyd digwyddiadau fel yr un a hysbysebwyd yn y poster uchod i helpu garddwyr newydd a oedd am gynorthwyo yn yr ymdrech ryfel.
Yn 1945 creodd y Weinyddiaeth Amaeth y canllawiau misol hyn yn dweud wrth arddwyr pa dasgau y dylent eu gwneud bob mis i gadw eu gerddi’n gynhyrchiol. Er ei fod yn agosáu at ddiwedd y rhyfel, roedd pobl yn dal i gael eu hannog i dyfu eu bwyd eu hunain gan fod cyllideb y wlad ar gyfer mewnforio bwyd yn dal yn isel. Parhaodd dogni ar ryw ffurf tan 1954, felly byddai’r canllawiau hyn wedi aros yn ddefnyddiol am flynyddoedd i ddod.


Nid ar gyfer cynhyrchu bwyd yn unig yr oedd rhandiroedd adeg y rhyfel, roeddent hefyd yn rhoi hwb i ysbryd a morâl pobl ar adeg pan oedd gwir angen. Roedd gofalu am eu gerddi yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i bobl er gwaethaf anhrefn cyfnod y rhyfel. Roedd cymunedau’n rhannu cynghorion garddio, hadau, a chynhyrchion, gan arwain at gynnydd mewn ysbryd cymunedol. Daeth y gerddi hyn yn symbol o obaith er i’r wlad fynd trwy gyfnod anoddaf hanes Prydain o bosib.
Rhandiroedd wedi’r rhyfel
Ar ôl i’r rhyfel ddod i ben, dirywiodd y defnydd o randiroedd wrth i fewnforion bwyd arferol ailddechrau, a diddymwyd dogni’n raddol. Erbyn y 1950au a’r 1960au roedd llawer o randiroedd adeg y rhyfel yn cael eu hail-bwrpasu neu eu dychwelyd i’w defnydd gwreiddiol fel parciau a mannau hamdden. Dirywiodd rhai rhandiroedd, neu fe’u troswyd yn ddatblygiadau eraill, a gostyngodd nifer y rhandiroedd gweithredol.
Er gwaethaf y dirywiad, roedd rhandiroedd a gerddi yn dal i ymddangos mewn mannau annisgwyl, fel yr ardd fach hon ar wyneb Glofa Caerau, ger Maesteg.

Rhandiroedd Heddiw
Heddiw, mae rhandiroedd wedi cael atgyfodiad, yn enwedig mewn ardaloedd trefol lle mae’n anoddach dod o hyd i fannau gwyrdd. Mae llawer o randiroedd modern yn fwy na lleoedd i dyfu bwyd: maent wedi dod yn ganolfannau cymunedol, mannau ymlacio, a hyd yn oed yn lle i addysgu arferion byw cynaliadwy.
Ledled y DU mae’r rhestrau aros am randiroedd yn aml yn hir, yn enwedig yn dilyn y cyfnodau clo Covid yn 2020/2021 wrth i’r galw gynyddu. Mae hyn yn dangos awydd cynyddol ymhlith pobl i ailgysylltu â natur, tyfu eu bwyd eu hunain, a lleihau eu hôl troed carbon.
Mae’r lluniau hyn o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn dangos rhai rhandiroedd o’r degawd diwethaf.



Mae rhandiroedd yng Nghymru, ac ar draws y DU, wedi esblygu o fod yn hanfodol yn ystod y rhyfel i fannau gwyrdd modern sy’n cefnogi byw’n gynaliadwy, ysbryd cymunedol, ac yn cefnogi iechyd meddwl. Wrth i fwy a mwy o bobl bryderu am yr amgylchedd a’r newid yn yr hinsawdd, mae ein rhandiroedd unwaith eto yn profi y gallant ein helpu i fod yn hunangynhaliol.
James Southerby,
Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru