‘Lle nes i roi’r cwilsyn yna?’  meddyliodd Clerc y Llys yn y 1850au…

Yn ddiweddar, canfuwyd cwilsyn gwreiddiol yn AGDdC, Penarlâg, wedi’i wasgu rhwng dalenni llyfr achwyniadau Llys Treffynnon o’r 19eg ganrif, yn dyddio’n ôl i’r 1850au.  Roedd y llyfr yn cael ei ail becynnu gan wirfoddolwyr, a oedd yn llunio blwch unigryw i gadw copi gwreiddiol a bregus o Lyfr y Llys.   Mae’r cwilsyn yn wyn ac yn edrych fel y petai’n perthyn i wŷdd neu alarch.  Mae’n bosib gweld yr inc ar y nib, sydd wedi’i lunio’n berffaith.   Mae ysgrifen llyfr y Llys yn glir iawn, felly mae’n amlwg ei fod yn gwilsyn o ansawdd da.   Mae’n ymddangos fel petai’r Clerc wedi’i roi i lawr ac wedi anghofio amdano…. ac yna fe ddaeth i’r golwg gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach!

Y Cwilsyn, wedi’i wasgu rhwng dalenni Llyfr Llys Treffynnon
Frances, gwirfoddolwr, yn creu blychau unigryw ar gyfer llyfrau hanesyddol y Llys

Gwaith Clerc y Llys oedd cadw cofnodion holl achosion y llys a ffioedd y llys. Llofnod Clerc y Sir rhwng 1852 a 1856 oedd llofnod Samuel Williamson, mab hynaf William Williamson o Greenfield House – hen deulu o Dreffynnon. Ganwyd Samuel Williamson ym 1804. Cafodd yrfa lwyddiannus fel Cyfreithiwr lleol ac yr oedd yn Gadeirydd y Bwrdd Lleol yn ogystal â bod yn Glerc y Llys Sirol. Yng Nghyfrifiad 1861 yr oedd yn byw ym Mhendre House, Whitford Street, gyda’i wraig Mary Ann, dau o blant, a thri o weision neu forwynion. Yn ôl Return of Owners of Land, 1873, yr oedd “Samuel Williamson Esq.” yn berchen ar 38 erw, 2 rwd a 39 perc o dir yn Nhreffynnon, yn rhoi rhent blynyddol o £44-2s.

Pan fu farw ym 1885 yn 81 mlwydd oed, argraffwyd ysgrif goffa yn y Flintshire Observer (10 Rhagfyr 1885) a oedd yn datgan ei fod yn cael ei barchu’n gyffredinol am ei uniondeb a’i ymddygiad bonheddig. Mae’n ymddangos yn debygol bod y cwilsyn a ganfuwyd yng nghanol dalennau llyfr y Llys yn perthyn iddo fo.

Defnyddiwyd cwilsynnau am ganrifoedd ym Mhrydain a gwledydd eraill fel teclynnau ysgrifennu, ac roedd y plu ar gyfer y cwilsynnau yn cael eu cymryd yn bennaf gan wyddau, elyrch a brain; ond weithiau byddai estrys, tyrcwn ac adar eraill yn cyfrannu hefyd.[1] Roedd yn cymryd amser a sgil i baratoi plu i’w defnyddio fel cwilsynnau, gan docio’r nib yn fanwl.  Gellir defnyddio plu gwahanol adar at wahanol ddibenion: yn gyffredinol defnyddiwyd plu hwyaid fel ysgrifbinnau; tra defnyddiwyd cwilsynnau brain ar gyfer darluniau manwl, gan fod modd creu pwynt mân arnynt. [2]  Yn ôl y ‘Cyclopaedia of Useful Arts’ (1845), byddai gwneuthurwr cwilsynnau yn cynhyrchu oddeutu 1,200 o binnau’r dydd!  Yn y flwyddyn 1840, cynhyrchwyd dros 22 miliwn o gwilsynnau ym Mhrydain i’w defnyddio gartref.

Roedd cwilsynnau yn bethau cain, ac yn aml roedd yn rhaid i’r defnyddiwr eu minio a’u trwsio, gyda chyllell oedd yn cael ei hadnabod fel cyllell binnau.  Roedd yn waith rhwystredig a oedd yn cymryd cryn dipyn o amser, gan nad oedd nib y cwilsyn yn para’n hir iawn a gallent ddirywio’n gyflym.  Roedd yr amser a dreuliwyd yn trwsio a minio cwilsynnau yn sylweddol ac yn rhannol egluro pam y bu dirywiad yn eu defnydd erbyn y 1850au – pan ddaeth pinnau dur, wedi’u gweithgynhyrchu ym Mirmingham o Ddur Sheffield gan amlaf, yn boblogaidd iawn. [3]

Fodd bynnag, roedd rhai yn parhau i ffafrio plastigrwydd a hydrinedd cwilsyn dros nib caled, anhyblyg y pinnau dur.  Ym maes y gyfraith, gan gynnwys yn swyddfeydd y Llys a’r Llywodraeth, roedd y cwilsyn yn parhau i gael ei ystyried cyn hwyred â’r 1880au mor ‘amhrisiadwy â thâp coch’.  Y gred oedd bod cwilsynnau yn gwella safon yr ysgrifen ac yn llai tebygol o achosi cramp ysgrifennwr na phinnau dur. [4]  Ym 1884, roedd yr hysbyseb ganlynol ar gyfer cwilsynnau mewn cyfnodolyn masnach yn gwarantu rhai a dorrwyd â llaw, gan sicrhau bod y nib yn berffaith ac nad oes modd cael hynny gyda phinnau wedi’u torri gan beiriant. [5]

Hysbyseb o’r British Trade Journal (atodiad), Hydref 1884

Felly, ni fu dirywiad llwyr yn y defnydd o gwilsynnau hyd yn oed erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.

Mae cofnodion Llys Sirol Treffynnon, rhwng 1847 a 1965 yn cael eu cadw yn AGDdC, Penarlâg.  Roedd Llysoedd Sirol yn yr Wyddgrug a Threffynnon yn Sir y Fflint; a Dinbych, Llanrwst, Rhuthun a Wrecsam yn Sir Ddinbych; ac yng Nghorwen (Sir Feirionnydd).  Cedwir cofnodion Sir Ddinbych yng nghangen Rhuthun AGDdC.  Mae rhai cofnodion cynnar o lysoedd Rhuthun a Wrecsam sydd heb eu trosglwyddo i’r archifau ac fe dybir eu bod ar goll. 

Lluniwyd Llysoedd Sirol, a oedd yn ymdrin ag achosion sifil, o dan Ddeddf Llysoedd Sirol 1846.  Rhannwyd Cymru a Lloegr yn rhanbarthau, wedi’u grymuso i brynu tir i adeiladu llys.  Diben y llysoedd oedd gwrando ar achosion sifil, mewn cyfarfodydd misol gan amlaf.  Roeddent yn ymdrin ag achosion i adennill mân ddyledion o gontractau, ymddiriedolaethau, profiant ac eiddo.  Swydd Clerc y Llys oedd cadw cofnodion o’r holl achosion yn y llys a chyfrifon ffioedd y llys. Bydd y cwilsyn ‘coll’ o Lys Sirol Treffynnon yn cael ei baratoi gan ein Cadwraethwr a’i gadw fel arteffact ar gyfer y dyfodol, gyda chofnodion y Llys. [Cyf: C/A/4, Llyfr Cofnod ac Achwynion, 1852-1856, Llys Sirol Treffynnon]. Roedd dod o hyd i’r cwilsyn yn un o’r adegau hudolus hynny lle y daw hanes yn fyw drwy’r archifau. Gellir gweld y cofnodion yn AGDdC. Mae’n rhaid trefnu apwyntiad.


[1] Charles Tomlinson (ed.), Cyclopaedia of Useful Arts, Mechanical and Chemical, Manufactures, Mining and Engineering, Rhifyn. II, H-Z, (Llundain, 1854), t.353.

[2] Charles Tomlinson (ed.), Cyclopaedia of Useful Arts, Mechanical and Chemical, Manufactures, Mining and Engineering, Rhifyn. II, H-Z, (Llundain, 1854), t.353.

[3] Charles Tomlinson (ed.), Cyclopaedia of Useful Arts, Mechanical and Chemical, Manufactures, Mining and Engineering, Rhifyn. II, H-Z, (Llundain, 1854), t.353.

[4] The British Trade Journal, (1 Tachwedd 1884), t.644.

[5] Atodiad i’r British Trade Journal, (Hydref 1884), p.iii.