Archwilio Ein Straeon: Podlediad Newydd o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru 

Mae’n Wythnos Archwilio Eich Archif 2023; wythnos i annog pawb i ymweld, defnyddio, dathlu a chael eu hysbrydoli gan archifau yn y DU ac Iwerddon. Eleni, mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn gyffrous i lansio Heb Asid (Acid Free); podlediad newydd sbon a chyfres o straeon digidol sy’n archwilio profiadau bywyd go iawn a themâu o’u casgliadau.  

Mae’r podlediad cyntaf yn canolbwyntio ar Droseddwyr Fictoraidd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae Katie Gilliland, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, yn ymuno â Richard Ireland, awdur a darlithydd sy’n arbenigo mewn hanes trosedd a chosb. Maent yn trafod bywydau troseddwyr Fictoraidd, gan edrych ar ffotograffau a ddefnyddiwyd gan yr heddlu, mathau gwahanol o gosb, a charchardai ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwrandewch ar y podlediad trwy’r linc yma:

Spotify – Heb Asid: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

I nodi cychwyn Wythnos Archwilio Eich Archif 2023, cafodd digwyddiad yng nghangen Penarlâg Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru i lansio’r podlediad a’r straeon digidol. Gwahoddwyd gwesteion i ddangosiad o’r straeon digidol ac i wrando ar ddarlith gan Richard Ireland, gwestai’r podlediad, a soniodd ymhellach am ffotograffau o droseddwyr.

I gyd-fynd â’r podlediad newydd, crëwyd cyfres newydd o straeon digidol mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr gwirfoddol o Brifysgol Glyndŵr. Mae’r ddwy stori gyntaf Heb Asid yn ymchwilio i’r bywydau a’r troseddau David Francis a George Walters, dau droseddwr sydd wedi’u cynnwys yn y llyfrau Gwep Lun (“Mug Shot”). Mae’r llyfrau gwep lun yn ddwy gyfrol ddiymhongar wedi’u rhwymo gan ledr sy’n cynnwys ffotograffau o droseddwyr a gafwyd yn euog ochr yn ochr â disgrifiadau corfforol a manylion eu troseddau. Cedwir y cyfrolau yng nghangen Rhuthun o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, ac maent ar gael i’w gweld ar-lein yn www.newa.wales.  

Mae’r straeon digidol ar gael i’w gweld ar YouTube, isod; 

https://www.youtube.com/@NorthEastWalesArchives/videos

Hoffai staff Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â chofnodi ac ymchwilio i’r cynnwys digidol newydd, gyda diolch arbennig i Richard Ireland fel y gwestai podlediad cyntaf a Neil Johnson, myfyriwr ymchwilydd o Brifysgol Glyndŵr.  

Dilynwch Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ar YouTube, Facebook, Twitter ac Instagram.