CONWY: ‘Plwyf Dwygyfylchi cyn i’r rheilffordd gyrraedd’
Fel rhan o’r prosiect Cynefin cyffredinol, goruchwyliwyd chwe phrosiect llai gan swyddfeydd archifau lleol drwy Gymru, gyda phob prosiect yn edrych ar agwedd o’r mapiau degwm oedd yn apelio atynt gan weithio gyda’u cymuned leol.
Mae tref bresennol Penmaenmawr yn perthyn i’r cyfnod ar ôl dyfodiad y rheilffordd a defnyddiodd y prosiect lleol hwn fap degwm Dwygyfylchi a ffynonellau sylfaenol ac eilaidd eraill i lunio hanes economi a thirwedd y plwyf cyn i’r rheilffordd gyrraedd yn 1849.
Cynhaliwyd y prosiect gydag aelodau Grŵp Hanes ac Amgueddfa Penmaenmawr, a rhyngddynt, mae ganddynt wybodaeth helaeth am hanes y plwyf, ac maent yn awyddus i’w rhannu. Cynhaliwyd y prosiect yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg er mwyn cynnwys newydd-ddyfodiaid brwdfrydig i’r ardal.
O ganlyniad i’r prosiect, paratowyd llyfryn, taflen ‘taith hanesyddol’, sesiynau grŵp a gweithdai, yn cynnwys ymweliadau ag Archifdy Conwy a Sir Ddinbych, ymweliadau ag ysgolion a gweithdai gydag ysgolion lleol Ysgol Pencae ac Ysgol Capelulo a gynhaliwyd ar y cyd gan y grŵp a’r Swyddog Prosiect, taith dywys a digwyddiad i gloi’r prosiect i lansio gwefan newydd Mapiau Degwm Cymru.




